Mater - cyfarfodydd
Safeguarding – Adults & Children
Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 34)
34 Diogelu - Oedolion a Phlant PDF 149 KB
Pwrpas: Darparu Aelodau â gwybodaeth ystadegol yngl?n â Diogelu – Oedolion a Phlant
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Safeguarding – Adults & Children, eitem 34 PDF 302 KB
- Enc. 2 for Safeguarding – Adults & Children, eitem 34 PDF 200 KB
- Enc. 3 for Safeguarding – Adults & Children, eitem 34 PDF 611 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad am gyd ddarpariaeth Diogelu Plant ac Oedolion o fewn ffiniau’r Sir. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd yn amlygu’r amrywiaeth o waith a wneir gan yr Uned Ddiogelu, a gweithgarwch yr Uned. Roedd yr adroddiad yn crynhoi gwersi allweddol o adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.
Soniodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a gwahoddodd Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu i ddarparu trosolwg o'r gwaith sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Uned Ddiogelu o safbwynt amddiffyn plant, diogelu oedolion, oedolion sydd mewn perygl, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Dan Ofal.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad ar y cyd.
Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y materion o ddiogelwch ar-lein, cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, a dibyniaeth ar hapchwarae ar-lein, a gofynnodd pa beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sut gallai dioddefwyr ddod o hyd i wybodaeth a chyngor. Llongyfarchodd y Cynghorydd Hughes yr Uned Ddiogelu ar eu gwaith ardderchog. Dywedodd na allai weld unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ar-lein yn yr adroddiad, a fyddai yn ei farn ef yn cwympo o dan diogelu. Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Arolygiadau Dynladdiad a’r cyfeiriad at alwad 999 distaw, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn iddynt gyhoeddi'r ffaith os oedd galwad 999 yn ddistaw, mae’n debygol na fyddai unrhyw ymateb i argyfwng.
Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu bod diogelwch ar-lein yn faes o fewn cylch gwaith yr uned ddiogelu a bod gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo. Roedd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu yn cydnabod nad oedd diogelwch ar-lein yn cael ei drafod yn yr adroddiad, fod bynnag dywedodd bod yr uned yn ymwybodol iawn o ddiogelwch ar-lein a dywedodd y byddai unrhyw bryderon am ddiogelwch plant yn cael eu hystyried o fewn cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau llys. Cyfeiriodd hefyd at y Panel Pobl sydd ar Goll, wedi’u Camfanteisio arnynt ac wedi’u Masnachu (Missing Exploited Trafficked (MET)), sy'n banel ar y cyd â Wrecsam ac yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud ag achosion o gamfanteisio. Byddai hyn yn cynnwys pryderon am weithgarwch ar-lein.
Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dull amlasiantaeth o rannu gwybodaeth. Canmolodd y gwaith ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth cam-drin domestig, ac awgrymodd y dylai ysgolion gael gwybod cyn y diwrnod ysgol os yw digwyddiadau wedi digwydd, ble bo hynny’n bosib. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai ap i adrodd am fwlio ar ddyfeisiadau symudol fod yn arf defnyddiol.
Roedd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Chomisiynu yn cytuno â sylwadau y Cynghorydd McGuill. Gan gyfeirio at fwlio, dywedodd er mai yn y maes addysg yr oedd hyn yn bodoli fwyaf, roedd hefyd yn gyfrifoldeb ar bawb.
Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi anfon cyfres o negeseuon e-bost yngl?n â pherson di-gartref yn cysgu ger ysgol feithrin ac nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 34