Mater - cyfarfodydd
21st Century Schools Programme - Modernisation of the Portfolio Pupil Referral Unit Provision & Queensferry Community Primary (C.P.) School
Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 270)
Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif Band B – Uned Atgyfeirio Disgyblion Arfaethedig/Prosiect Ysgol Gynradd Queensferry
Pwrpas: Mynd ymlaen â’r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ym Mhortffolio Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion ac Ysgol Gynradd Queensferry. Bydd yn darparu model PPRU mwy effeithlon gan wella canlyniadau i ddysgwyr diamddiffyn.Bydd y prosiect hefyd yn mynd i’r afael â materion addasrwydd yn yr ysgol gynradd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Moderneiddio’r Ddarpariaeth Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac Ysgol Gynradd Gymunedol Queensferry, a nododd opsiwn i’r Cabinet ei ystyried mewn perthynas â buddsoddiad cyfalaf a moderneiddio’r Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac isadeiledd Ysgol Gynradd Queensferry.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo i barhau gyda'r prosiect cyfalaf arfaethedig ar gyfer yr Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio ac Ysgol Gynradd Queensferry i gaffael contractwr, i ddylunio, datblygu, tendro a chwblhau cyflwyniad Achos Busnes llawn i Lywodraeth Cymru, yn unol â meini Prawf Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif.