Mater - cyfarfodydd

School Transport - Sibling Entitlement

Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 259)

259 Cludiant i’r Ysgol – Hawl Brodyr a Chwiorydd pdf icon PDF 83 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i beidio mabwysiadu rheolau brodyr a chwiorydd ar gyfer darpariaeth cludiant i’r ysgol.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Cludiant Ysgol – Hawl i Frodyr a Chwiorydd, a oedd yn rhoi sylw i’r mater o hawl i frodyr a chwiorydd, ar ôl penderfyniadau ffurfiol gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Cabinet.

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r mater, lle amlinellwyd y manylion llawn yn yr adroddiad, argymhellwyd na ddylai brodyr a chwiorydd gael hawl awtomatig i gludiant ac na ddylai darparu cludiant i frawd neu chwaer h?n greu cynsail i frodyr a chwiorydd ieuengach. 

 

Argymhellwyd y dylid ystyried pob cais o'r newydd ac yn ôl ei rinweddau ei hun, ac os oedd y Polisi Cludiant Ysgol wedi newid ers i unrhyw frawd neu chwaer h?n gael cludiant am ddim, yna byddai'r brawd neu’r chwaer ieuengach yn ddarostyngedig i'r Polisi mewn grym ar yr adeg y gwneir eu cais a'r dyddiad dechrau disgwyliedig.

 

Roedd y Cynghorwyr Bithell a Roberts yn cefnogi’r argymhelliad, er iddo fod yn benderfyniad anodd, gan nodi nad oedd unrhyw hawl statudol am gludiant am ddim i frodyr a chwiorydd, ac mai Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod i ddarparu gwasanaeth o'r fath.

           

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo na fydd hawl i frodyr a chwiorydd yn gymwys ar gyfer darpariaeth gwasanaeth cludiant ysgol.