Mater - cyfarfodydd

Provisional Learner Outcomes

Cyfarfod: 01/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 24)

24 Canlyniadau Dysgwr 2018 (Dros Dro) pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar ddeilliannau dros dro a gyflawnwyd gan                                     ddysgwyr Sir y Fflint ar draws pob cyfnod o Addysg yn 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr David Edwards, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Cynradd, a Mr Martyn Froggett, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Uwchradd (GwE) i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y canlyniad dros dro a gyflawnwyd gan ddysgwyr Sir y Fflint ar draws pob cyfnod o Addysg yn 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi asesiadau athrawon yn y dyfodol, nad oedd Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi data cymharol Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod lleol a chonsortia ac felly, tu hwnt i gymhariaeth â chyfartaleddau cenedlaethol nid oedd gwybodaeth gymharol neu feincnodi ar gael. O ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag adrodd data, cytunodd y Prif Swyddogion Addysg yng Ngogledd Cymru y byddai adroddiad craffu safonol yn cael ei lunio gan GwE er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r newidiadau a dull cyson ar draws y rhanbarth yn cynnwys yr holl setiau data. Mae trosolwg manwl o berfformiad Sir y Fflint wedi’i gynnwys yn yr  atodiad i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a dywedodd, ar y cyfan, fod canlyniadau Sir y Fflint ar draws yr holl camau allweddol yn parhau i fod yn gryf a fod perfformiad yn cymharu'n dda â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Tynnodd sylw at y diwygiad i arholiadau TGAU yng Nghyfnod Allweddol 4 ac effaith cyflwyniad cyfres o gymwysterau TGAU newydd mewn Gwyddoniaeth, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Swyddog fod newid sylweddol wedi bod i ffiniau graddau ers yr haf 2017 a mis Tachwedd 2017 o’i gymharu â'r haf 2018, yn enwedig i radd C mewn Saesneg a Mathemateg a oedd wedi ei gwneud yn anodd i ysgolion sicrhau rhagamcaniadau cywir a gosod targedau. Eglurodd fod y mater hwn yn destun cyfathrebu swyddogol rhwng Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Rebecca Stark, cytunodd y Prif Swyddog i ddosbarthu copi o’r ymateb gan CBAC i lythyr a anfonwyd gan y Penaethiaid, i’r Pwyllgor. 

 

Cyfeiriodd Mr David Edwards at y newidiadau i’r meysydd dysgu yn y Cyfnod Sylfaen a dywedodd wrth gymharu â’r cyfartaleddau cenedlaethol, fod ysgolion yn Sir y Fflint yn perfformio’n dda. Dywedodd hefyd fod canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 Sir y Fflint yn parhau i fod yn gryf a bod canran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefelau disgwyliedig neu uwch yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer yr holl bynciau craidd. 

 

            Wrth drafod Arweinyddiaeth ysgolion, dywedodd Mr Edwards fod diddordeb parhaus mewn athrawon a oedd yn ymgeisio am swyddi arweinyddiaeth neu brifathrawiaeth a dywedodd fod y canran o ymgeiswyr o Sir y Fflint yn uwch na rhanbarthau eraill.

 

Rhoddodd Mr Martyn Froggett wybodaeth gyd-destunol o ran Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd, er i’r wybodaeth gychwynnol am ganlyniadau gael ei rhannu nid oedd mynediad, hyd yma, at ddata cymharol a meincnodi.  Dywedodd hefyd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 24