Mater - cyfarfodydd

Budget 2019/20 Stage 2 Proposals

Cyfarfod: 01/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 23)

23 Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac                 Ieuenctid ar gyfer 2019/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gam 2 cynigion y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid ar gyfer 2019/20. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y rhagolwg ariannol a chynigion cam 1 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn trafod gostyngiad o 1% ac y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar y bwlch a ragwelir ar gyfer 2019/20. Gwnaeth y Prif Swyddog sylw ar y datganiad cyllideb diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos hon a’r posibilrwydd o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru.

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Cyllid i adrodd ar risgiau a lefelau gwytnwch y meysydd gwasanaeth o fewn y portffolio Addysg. Gwnaeth y Rheolwr Cyllid sylw ar y datganiadau gwytnwch manwl a baratowyd ar gyfer pob maes gwasanaeth yn ystod yr haf a dywedodd fod hyn wedi cadarnhau bod cwmpas cyfyngedig ar gyfer unrhyw arbedion gweithredol pellach o fewn y portffolio.   Eglurodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn wynebu gostyngiad o 1% (£1.9m) yn y dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad nid oedd unrhyw ychwanegedd ar gyfer pwysau ar y gyllideb, yn cynnwys dyfarniad cyflog yr athrawon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac adroddodd y ddau ar bwysau a buddsoddiadau portffolio, dyfarniad cyflog athrawon, pensiynau athrawon ac arbedion cynllunio busnes portffolio. 

 

Yn dilyn y sylwadau gan aelodau yn diolch i aelodau'r Tîm Addysg ac Ieuenctid am eu gwaith caled yn ystod yr heriau ariannol, cytunodd y Prif Swyddog i gyfleu eu sylwadau yn dilyn y cyfarfod.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill er mwyn cyflawni arbedion ar leoliadau y tu allan i'r sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn fater cenedlaethol ac eglurodd fod trafodaethau yn cael eu cynnar ar lefel ranbarthol  ynghylch y posibilrwydd o greu darpariaeth ranbarthol. Dywedodd fod y brif her yn ymwneud ag ymddygiad heriol ac emosiynol a chyfeiriodd at gost y staff sydd eu hangen i ddarparu cymorth un i un a gofal 24 awr. Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Prif Swyddog fod atal ac ymyrraeth yn allweddol a chyfeiriodd at y gwaith a wnaed i gefnogi ysgolion ag adnabod ac ymyrryd yn gynnar. Cyfeiriodd hefyd ar rôl yr Uned Cyfeirio Disgyblion a’r gwaith estyn allan a gwblhawyd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ian Roberts sylw ar effaith y toriadau i gyllid a oedd yn golygu bod llai o adnoddau ar gael ei ddarparu cefnogaeth i ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y pwysau ar athrawon a oedd yn gorfod ymdopi ag ymddygiad heriol rhai o’r disgyblion yn ddyddiol.

 

Gan gyfeirio at gost lleoliadau y tu allan i'r sir, awgrymodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru osod cap ariannol ar ddarparwyr lleoliadau y tu allan i'r sir.  Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai Pennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant godi’r mater yn ystod y cyfarfod rhanbarthol nesaf  ...  view the full Cofnodion text for item 23