Mater - cyfarfodydd

Use of Consultants

Cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 34)

34 Defnyddio Ymgynghorwyr pdf icon PDF 83 KB

Ystyried cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau o ran gwariant ymgynghoriaeth, a chywirdeb codio gwariant ymgynghorwyr ar y cyfriflyfr cyffredinol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o wariant ar ymgynghorwyr i sicrhau cywirdeb y ffigyrau ar y cyfeirlyfr cyffredinol ynghyd â chydymffurfio â’r prosesau cytunedig.

 

Holodd Sally Ellis am yr adolygiadau ôl-aseiniad ar gyfer achosion busnes ymgynghoriaethau yn 2017/18 a rhoddwyd gwybod y byddai’r rhain yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau’r prosiectau hynny. Roedd adolygiadau ar gyfer ymgynghorwyr a gyflogwyd yn 2016/17 wedi cael eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cael ei sicrhau bod gwariant ar ymgynghorwyr yn cael ei reoli a bod y Cyngor yn cyflawni gwerth am arian.