Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 54)

54 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 67 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Pwyllgor am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn nodi cynnydd ar bwyntiau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at yr adroddiad ar arolwg cynnal a chadw cylchol pont  Sir y Fflint a ddosbarthwyd a gofynnodd bod yr Aelodau yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw adroddiadau pellach.   Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’n gwirio dyddiad yr arolwg nesaf yn 2019 a gofynnodd bod unrhyw gwestiynau am yr arolwg yn cael eu hanfon at y Prif Swyddog (Tai ac Asedau).   Mewn ymateb i sylwadau pellach, cytunodd y byddai adroddiad gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Strategaeth Gyfalaf a’r Cynllun Rheoli Asedau yn cael ei drefnu ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.