Mater - cyfarfodydd
Housing Rent Income
Cyfarfod: 07/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 38)
Pwrpas: Darparu craffu gyda diweddariad gweithredol ar gasgliadau rhent, lefelau ôl-ddyledion presennol a'r strategaethau a fabwysiedir i liniaru risgiau ariannol i'r CRT wrth i Lywodraeth y DU wneud diwygiadau lles a chyflwyno Chredyd Cynhwysol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad diweddaru ar gasgliad incwm rhent a’r effaith ariannol ar ôl-ddyledion rhent o fewn y Cyfrif Refeniw Tai o ganlyniad i ddiwygiadau lles dan arweiniad Llywodraeth y DU, yn enwedig cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o fis Ebrill 2017.
Rhoddodd y Rheolwr Refeniw gyflwyniad a oedd yn cynnwys y canlynol:
· Golwg ar gyd-destun ehangach y diwygiad lles
· Archwilio’r data yn bellach
· Edrych ar faterion llif arian
· Nodi’r sefyllfa bresennol
· Llunio’r ffordd ymlaen – rheoli’r risgiau
Yn ystod y cyflwyniad, cyfeiriwyd at nifer o benawdau allweddol cenedlaethol a oedd yn tynnu sylw at effaith Credyd Cynhwysol ar ôl-ddyledion rhent. Roedd cymhariaeth o ffigyrau diwedd blwyddyn yn dangos bod ôl-ddyledion rhent yn dechrau lleihau yn 2016/17 cyn cyflwyniad gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol ac wrth i’r arenillion rhent gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, roedd ôl-ddyledion rhent hefyd yn dueddol o gynyddu. Er bod y sefyllfa hon yn cael ei rheoli, roedd casglu rhent yn parhau i fod yn her sylweddol. Er mwyn dangos effaith Credyd Cynhwysol ar sefyllfa’r llif arian, rhoddwyd enghraifft o sut y gallai ôl-ddyledion rhent waethygu erbyn wythnos 8 ac ar y pwynt hwnnw gallai’r Cyngor wneud cais i’r Adran Gwaith a Phensiynau am daliadau a reolir. Fodd bynnag, roedd hyn yn cynnwys proses gymhleth ac roedd oedi’n debygol.
Roedd ystod o fesurau wedi’u mabwysiadu i gefnogi tenantiaid, yn benodol tenantiaid diamddiffyn, i reoli’r diwygiadau a mynd i’r afael ag ôl-ddyledion rhent. Roedd dull mwy cadarn ar waith i ymgysylltu â thenantiaid yn gynt er mwyn ceisio deall pam nad oeddent yn talu a’u hannog i reoli eu harian er mwyn atal ôl-ddyledion rhag gwaethygu. Roedd adnoddau ychwanegol ar y Tîm Ymyrraeth Tai wedi helpu 362 o denantiaid i sicrhau bod eu hôl-ddyledion yn gyfredol. Byddai buddsoddi mewn meddalwedd dadansoddi data newydd, a ddefnyddir yn llwyddiannus ar hyn o bryd gan ddarparwyr tai eraill, o gymorth i ragweld achosion risg yn well.
Sicrhaodd y Cynghorydd Attridge bawb o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r cymorth hwn i denantiaid sydd wir angen help, ond nid oedd y Cyngor am gynnig ‘llwybr cyflym’ i’r broses adennill i’r unigolion hynny a oedd mewn dyled ond yn gwrthod ymgysylltu. Atgoffodd bawb fod lefelau casgliadau rhent o fudd i’r Cyfrif Refeniw Tai a oedd yn ei dro o gymorth i adeiladu tai newydd.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin, darparodd y Rheolwr Refeniw eglurhad o ran y tîm swyddogion a oedd yn ymdrin ag ôl-ddyledion rhent ac adennill rhai ôl-ddyledion drwy daliadau a reolir dros amser. Cytunodd i ddarparu gwybodaeth ddilynol ar nifer y tenantiaid newydd (yn ystod y 12-18 mis cyntaf o’u tenantiaethau) a oedd mewn dyled.
Atgoffodd y Prif Swyddog bawb o’r gwiriadau a wnaed gan y Tîm Tai wrth ddyrannu eiddo a oedd o gymorth i ganfod tenantiaethau cynaliadwy.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Cymorth i Gwsmeriaid) fod gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar landlordiaid preifat. Roedd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd gan ei thîm i ymgysylltu â thenantiaid yn ystod y camau ... view the full Cofnodion text for item 38