Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 21/11/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 40)

40 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol ar gyfer ei hystyried, gan nodi cytundeb cynharach y byddai’r eitem ar Warediadau Asedau a Derbyniadau Cyfalaf yn cael ei dileu o gyfarfod mis Ionawr.

 

Pan holodd y Cynghorydd Johnson ynghylch eitem ar risgiau strategol, eglurodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddai hyn yn ffurfio rhan o’r Diweddariad ar Reoli Risg a gyflwynir ym mis Ionawr. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at drafodaeth yn y Pwyllgor Cyswllt Archwilio a Chraffu yn ddiweddar a oedd yn cysylltu â gwaith ar risg a’r gofrestr risg.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo angen.