Mater - cyfarfodydd

Budget 2019/20 Stage 2 proposals

Cyfarfod: 16/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 21)

21 Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 pdf icon PDF 82 KB

Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhannau o Bortffolio Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad ar gynigion cyllideb cam 2 ar gyfer Portffolio Strydwedd a Chludiant a rhan o’r Portffolio Cynllunio, Amgylchedd ac Economi ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at weithdy a gynhaliwyd ar 11 Hydref, a roddodd gyfle i Aelodau i ddeall cyllideb portffolio yn fwy manwl a'r risgiau a lefelau gwydnwch meysydd gwasanaeth. Adroddodd y Prif Swyddog ar bwysau portffolio, buddsoddiadau, a chynllunio arbedion effeithlonrwydd busnes Portffolio fel y nodir yn yr adroddiad mewn perthynas â Strydwedd a Chludiant. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton i leihad mewn incwm o ailgylchu gwastraff. Eglurodd y Prif Swyddog bod yr incwm o wastraff ailgylchu, a phlastig, cerdyn a phapur er enghraifft, wedi gostwng yn sylweddol oherwydd colli marchnadoedd rhyngwladol a chyfeiriwyd at fentrau sydd yn cymryd lle i gynnal y farchnad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio plastig yn lle Bitumen i atgyweirio arwynebedd ffyrdd a ceudyllau, dywedodd Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant bod trafodaethau yn digwydd gyda chwmni lleol mewn perthynas â hyn, a bwriedir bod sampl o ddeunydd yn cael ei ddarparu ar gyfer ei dreialu yn y dyfodol agos. Byddai aelodau yn cael eu gwahodd i ymweld â'r cwmni i edrych ar y cynnyrch a phan fydd gwybodaeth pellach ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor craffu ar y canfyddiadau.

 

Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o ymholiadau. Cyfeiriodd at incwm o waith allanol (Gweithdy Fflyd) a gofnodwyd fel £0.010m yn yr adroddiad, ac ar dudalen 3 y datganiad gwytnwch nodwyd £10.00. Hefyd gofynnodd am gadarnhad a oedd y casgliadau sbwriel bob 3 wythnos yn rhan o’r cynigion ar y pryd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at yr arbedion o £30k yn 2015/16 yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth yng ngorsaf bws yr Wyddgrug, a dywedodd ei fod yn ymddangos bod arian yn cael ei wario ar gyllid grant. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y grant gorsaf bysiau gan Lywodraeth Cymru a bod y £30k a gyfeiriwyd ato yn arbedion refeniw yn dilyn cau’r ganolfan wybodaeth bychan yng ngorsaf bws yr Wyddgrug. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch gwasanaeth casglu sbwriel bob 3 wythnos, ond dywedodd oherwydd y setliad cyllideb diweddaraf a’r gostyngiadau pellach mewn cyllid nad oedd yn bosib ei anwybyddu fel dull arbed cyllid posibl ar hyn o bryd.   Dywedodd y byddai newid y gwasanaeth casglu gwastraff bob 3 wythnos yn gallu gwneud arbedion o £800k.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas ynghylch gwastraff ochr, cyfeiriodd y Prif Swyddog at y gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff ochr a oedd yn cael ei adael i’w casglu.  Dywedodd bod 1,400 o lythyrau rhybuddio wedi’u hanfon at breswylwyr a busnesau a dywedodd mai dim ond 30-40 o achosion oedd wedi symud i’r ail gam o roi rhybudd. Dywedodd y Prif Swyddog gan oedd unrhyw Hysbysiadau Cosb Benodedig wedi’u rhoi a dywedodd mai’r nod oedd ymgysylltu ac annog pobl i  ...  view the full Cofnodion text for item 21