Mater - cyfarfodydd
Wales Audit Office Study – Overview & Scrutiny – Fit for the Future.
Cyfarfod: 17/10/2018 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 11)
11 Astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru - Trosolwg a Chraffu - Parod at y dyfodol PDF 113 KB
Pwrpas: Galluogi’r pwyllgor i ystyried yr adroddiad terfynol am Astudiaeth Swyddfa Archwilio Cymru – Trosolwg a Chraffu - Parod at y dyfodol
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Wales Audit Office Study – Overview & Scrutiny – Fit for the Future., eitem 11 PDF 130 KB
Cofnodion:
Eglurodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) wedi cynnal eu hastudiaeth trwy gynnal cyfweliadau gydag unigolion a grwpiau a thrwy arsylwi ar nifer o gyfarfodydd pwyllgor rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd. Enwyd nifer o gynghorwyr oedd wedi bod yn rhan o hyn. Roedd wedi cynnwys gr?p o Aelodau oedd newydd eu hethol, yn ogystal ag Aelodau oedd wedi bod yn gwasanaethu yn y cyngor blaenorol.
Hefyd, cynhaliwyd cyfweliadau unigol gyda’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Llywodraethu), Swyddog Gweithredu Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd.
Gwnaed pedwar argymhelliad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef y:-
P1 Dylai’r Cyngor gynnal hunan asesiad o’i swyddogaeth drosolwg a chraffu yn rheolaidd, i ystyried ei heffaith, a nodi meysydd gwella.
P2 Datblygu ymhellach blaen raglenni gwaith craffu i:
• sicrhau bod y dull craffu yn gwbl addas i’r pwnc dan sylw a’r canlyniad a ddymunir, ac ystyried dulliau mwy arloesol i gynnal gweithgaredd craffu.
P3 Dylai’r pwyllgorau trosolwg a chraffu wella ymhellach eu trefniadau ar gyfer hybu ymgysylltu â’r cyhoedd a budd-ddeiliaid eraill o ran gweithgaredd craffu.
P4 Dylai’r Cyngor adolygu’r trefniadau cefnogi ar gyfer trosolwg a chraffu yng ngoleuni heriau presennol ac yn y dyfodol.
Gwahoddodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Aelodau’r pwyllgor i ystyried a chynnig sylwadau ar yr argymhellion hyn.
Dywedodd Cynghorydd Dave Healey nad oedd yn gallu cytuno â’r argymhellion, oherwydd credai nad oeddent yn rhoi darlun cywir o’r ffordd yr oedd Trosolwg a Chraffu yn gweithio. Cyfeiriodd at ei rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a dywedodd nad oedd y pwyllgor hwn yn cael ei ‘arwain gan aelodau’ a chyfeiriodd at enghreifftiau lle’r oedd Aelodau wedi herio swyddogion ynghylch y canlynol:-
· Effaith y rhyngrwyd ar bobl ifanc – beth oedd Sir y Fflint yn ei wneud i bwysleisio’r peryglon?
· Dechrau adroddiad ar y Gwasanaeth Ieuenctid a sut yr oedd yn gweithredu – roedd y mater hwn yn gais gan un o’r Aelodau;
· GwE – pan oeddent yn bresennol yn y pwyllgor, roedd Aelodau’n gofyn am ddiweddariadau ar wahanol faterion fel tlodi misglwyf a chludiant ysgol;
· Hefyd gofynnwyd cwestiynau am effaith y cyllidebau lle nad yw’r arian yn newid ar ysgolion. Roedd Penaethiaid hefyd wedi bod yn bresennol ac roedd eu cynrychiolwyr wedi siarad ag Aelodau a swyddogion yn amlinellu eu pryderon.
Dywedodd y Cynghorydd Healey mai dim ond rhai enghreifftiau oedd y rhain o ba mor rhagweithiol y bu’r swyddogaeth graffu yn ystod y llynedd.
Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod yr astudiaeth wedi ei chynnal hydref diwethaf. Roedd ef a phenaethiaid gwasanaethau democrataidd eraill wedi gwneud y pwynt i SAC na fyddai cynnal astudiaeth o’r fath mewn awdurdodau lleol lle cynhaliwyd etholiadau’n ddiweddar, yn debygol o roi adlewyrchiad cywir o’r arfer craffu. Mae'n debygol y byddai nifer o newidiadau yn sgil yr etholiad. Hefyd, ni ddylid defnyddio nifer bach o gyfarfodydd i roi darlun llawn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y cyfarfodydd a gynhaliwyd y tu allan i Neuadd y Sir fel yn Nyffryn Maes Glas, Parc Wepre, ac Ysgolion yr ... view the full Cofnodion text for item 11