Mater - cyfarfodydd
Centenary Fields
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 252)
252 Caeau Canmlwyddiant PDF 85 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth am y Rhaglen Caeau Canmlwyddiant a cheisio cymeradwyaeth i gyflwyno ceisiadau i ddynodi ardaloedd penodol yn Sir y Fflint fel Caeau Canmlwyddiant.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Caeau Canmlwyddiant a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno nifer o safleoedd i Feysydd Chwarae Cymru fel Caeau Canmlwyddiant.
Roedd Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, i ddiogelu a chadw mannau agored gwerthfawr a oedd â rhywfaint o arwyddocâd i’r Rhyfel Byd Cyntaf, i anrhydeddu’r rhai a oedd wedi colli eu bywydau. Roedd y rhaglen yn un o amrywiaeth o fentrau i goffau canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Byddai gweithred gyflwyno gyfreithiol rhwng y Cyngor a Meysydd Chwarae Cymru yn golygu y byddai’r safleoedd sydd wedi’u dynodi fel Caeau Canmlwyddiant yn cael eu diogelu am byth, gan ddarparu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byddai dynodi safleoedd fel Caeau Canmlwyddiant yn atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog a diogelu mannau gwyrdd er budd y gymuned leol. Roedd y rhestr derfynol o safleoedd wedi’u hatodi i’r adroddiad.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a fyddai’n gweld cofebau addas yn y safleoedd a restrwyd. Diolchodd yn benodol i’r Cynghorwyr David a Gladys Healey am eu hangerdd dros fod am ddiogelu Parc Willows yn yr Hob, a fyddai’n cael ei ddiogelu yn dilyn y weithred gyflwyno gyfreithiol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo bod cais yn cael ei gyflwyno i Feysydd Chwarae Cymru i gyflwyno’r safleoedd a ganlyn fel Caeau Canmlwyddiant:
· Y Grîn gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint;
· Gerddi Coffa, Treffynnon;
· Gardd Goffa Coed-llai; a
· Pharc Willows, yr Hob.
(b) Llofnodi’r weithred gyflwyno gyda Meysydd Chwarae Cymru ar ran y Cyngor, os yw’r ceisiadau’n llwyddiannus; a
(c) Cytuno ar gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal i nodi achlysur y safleoedd yn cael eu dynodi’n Gaeau Canmlwyddiant.