Mater - cyfarfodydd
Progress for Providers - Creating a Place Called Home Delivering What Matters
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 243)
243 Cynnydd i Ddarparwyr - Creu Cartref sy'n Galw Lle sy'n Cyflawni'r hyn sy'n Bwysig PDF 84 KB
Pwrpas: Bod y Cabinet yn ystyried ac yn cefnogi’r dull a gydnabyddir yn genedlaethol, Cynnydd i Ddarparwyr, sy’n berthnasol i gartrefi preswyl a chartrefi preswyl.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Progress for Providers, eitem 243 PDF 600 KB
- Enc. 2 for Progress for Providers, eitem 243 PDF 1 MB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Cynnydd i Ddarparwyr – Creating a Place Called Home Delivering What Matters a oedd yn rhoi diweddariad ar y prosiect ac roedd y gyfle i gyflawni rhagor o gydnabyddiaeth o’r prosiect a’i ganlyniadau.
Er mwyn cydnabod y cerrig milltir a gyflawnwyd gan y 26 Cartref Nyrsio a Gofal Preswyl yn Sir y Fflint, roedd ‘Cynnydd i Ddarparwyr’ wedi’i ddatblygu gyda phecyn gwaith. Roedd y pecyn gwaith yn nodi disgwyliad Sir y Fflint o ran darparu gofal unigol ac roedd yn cefnogi Unigolion Cyfrifol a Rheolwyr ac arweinwyr mewn cartrefi drwy ddarparu amrywiaeth o adnoddau a oedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn a oedd yn helpu timau staff i newid y ffordd roeddent yn cefnogi pobl a sut roeddent yn ymgysylltu â theulu a ffrindiau. Roedd y pecyn gwaith hefyd yn helpu darparwyr i hyrwyddo rhagor o ddewis a rheolaeth i’r rhai a oedd yn cael gofal a oedd yn caniatáu i ddarparwyr ganolbwyntio ar beth oedd bwysicaf i bob unigolyn.
I ddangos y cynnydd, roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno tair lefel o achredu, Efydd, Arian ac Aur, a oedd yn helpu rheolwyr i wirio eu cynnydd eu hunain ac roedd yn dangos yn gyhoeddus eu bod yn gwneud cynnydd parhaus tuag at ofal sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Ym mis Medi 2018, cafodd y prosiect ei gydnabod yn gyhoeddus gan ennill Gwobrau Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru am ganlyniadau ardderchog i bobl o bob oed drwy fuddsoddi yn nysgu a datblygiad staff. Roedd y prosiect hefyd yn un o’r rhai a ddaeth i’r brig yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus – Dathlu cyflawniad rhagorol ac arloesedd ym maes darparu gwasanaethau llywodraeth leol y DU. Rhoddodd y Cynghorydd Jones ganmoliaeth i’r holl staff a oedd yn rhan o’r prosiect ardderchog hwn, a’u gwaith arno.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd longyfarchiadau i’r tîm am ennill Gwobr Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru a oedd yn gyflawniad ardderchog.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod effaith Cynnydd i Ddarparwyr – Creating a Place Called Home
Delivering What Matters yn cael ei chydnabod; a
(b) Bod y mentrau sy’n mynd rhagddynt i ddatblygu’r rhaglen ymhellach yn cael eu nodi.