Mater - cyfarfodydd
North Wales Learning Disability Strategy
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 244)
244 Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru PDF 105 KB
Pwrpas: Bod y Cabinet yn ystyried, yn rhoi sylwadau ac yn cefnogi’r Strategaeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Learning Disability Strategy, eitem 244 PDF 1 MB
- Enc. 2 for North Wales Learning Disability Strategy, eitem 244 PDF 701 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru a oedd yn nodi’r weledigaeth ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am anghenion y boblogaeth a beth oedd yn bwysig iddyn nhw, pa newid oedd y Cyngor am ei weld a sut fyddai’r strategaeth yn cael ei gweithredu. Roedd y strategaeth yn mynd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i’w chymeradwyo ym mis Tachwedd.
Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y weledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru yn seiliedig ar beth roedd pobl wedi dweud wrth y Cyngor oedd yn bwysig iddyn nhw, sef y byddai gan bobl ag anableddau dysgu ansawdd bywyd gwell, byw yn lleol lle roeddent yn teimlo’n ‘saff ac iach’, lle roeddent yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymunedau a lle roeddent yn cael mynediad i gefnogaeth bersonol effeithiol a oedd yn hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.
Byddai pum pecyn gwaith yn nodi sut byddai pethau’n cael eu newid er mwyn sicrhau bywydau da i bobl ag anableddau dysgu.
Roedd rhoi’r strategaeth ar waith yn cael goblygiadau o ran adnoddau i staff a materion ariannol i’r chwe awdurdod lleol a BIPBC. Byddai’r goblygiadau o ran adnoddau yn cael eu paratoi yn fanwl fel rhan o waith datblygu’r pum pecyn gwaith. Roedd cynnig wedi’i gyflwyno i Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru i ofyn am gefnogaeth gyda’r costau ychwanegol a disgwyliwyd ymateb cadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
Bod Strategaeth Anabledd Dysgu Gogledd Cymru yn cael ei chymeradwyo.