Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2018/19 – Mid Year Monitoring

Cyfarfod: 20/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 31)

31 Cynllun y Cyngor 2018/19 - Monitro Canol blwyddyn pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i ddangos y cynnydd sydd wedi’i fonitro ar ganol blwyddyn 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor.

 

                        Dywedodd bod yr adroddiad canol blwyddyn yn dangos bod 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 81% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 79% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 18% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. Mae’r adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd sy’n tan-berfformio. 

 

                        Cyfeiriodd y Prif Swyddog at yr adroddiad cynnydd perfformiad sydd wedi’i atodi i’r adroddiad hwn. Gan gyfeirio at dangosydd 3.1.2.1, dywedodd mai dim ond un ysgol oedd mewn categori pryder statudol Estyn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y risgiau sy’n gysylltiedig â diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol a dywedodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar 16 Mai, i roi diweddariad ar newidiadau deddfwriaethol.  Dywedodd y Prif Swyddog bod cynaliadwyedd cyllid grant ar gyfer addysg yn parhau i fod yn risg byw a sylweddol mewn nifer o feysydd. a chyfeiriodd at Ddyfarniad Cyflog Athrawon ar gyfer 2018-19 a 2019-20, cyfraniadau pensiwn cynyddol cyflogwr, a chyllid grant ar gyfer ysgolion. 

 

                        Mewn ymateb i'r sylwadau a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ynghylch y ddarpariaeth o Wasanaethau Ieuenctid yn ei ardal, eglurodd y Prif Swyddog bod yr Awdurdod yn cwrdd â’i ofynion statudol ac yn darparu lefel uchel o wasanaeth i fodloni anghenion pobl ifanc yn y dyfodol. Pwysleisiodd bod diffyg cyllid yn broblem cenedlaethol a felly roedd y gwasanaeth yn gorfod bod yn fwy creadigol yn y ffordd yr oedd gwasanaethau ieuenctid yn cael eu darparu ac yn symud ymlaen.  

 

Soniodd Mr David Hytch am yr ôl-groniad o waith atgyweirio a chynnal a chadw o fewn portffolio’r ysgolion. Cydnabu’r Prif Swyddog y pwyntiau a wnaeth Mr Hytch ac eglurodd bod ysgolion yn cael gwybod am eu sefyllfa o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw  yn cael eu cyflawni drwy wybodaeth manwl ar yr adroddiad arolwg cyflwr ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i bob ysgol unigol ar draws Sir y Fflint.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad.