Mater - cyfarfodydd
Cofnodion
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 43)
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Medi 2018.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Medi 2018.
Gofynnodd y Cynghorydd Hardcastle i gael ei gofnodi ei fod yn bresennol yn y cyfarfod.
Ar gofnod rhif 36, y degfed paragraff i gael ei ddiwygio i adlewyrchu fod Aelodau yn cael copi o’r safonau gwaith sy'n berthnasol i swyddogion.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Woolley at ddau gamgymeriad teipograffyddol ar gofnod rhif 36 a chofnod rhif 37.
Ar gofnod rhif 38 fe gytunodd y Prif Weithredwr i fynd ar ôl cais y Cynghorydd Peers am fwy o wybodaeth ar gyflog unigolyn yn cael ei gyflogi gan ysgol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Attridge bod adroddiad ar ôl-ddyledion rhent yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Mentergarwch, yn ôl cais y Cynghorydd Peers.
Ar gofnod rhif 39, byddai’r Prif Weithredwr yn sicrhau bod ymateb i’r cais am ddata cymhariaeth gan yr Awdurdod Tân a’i ddosbarthu i’r holl Aelodau.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.