Mater - cyfarfodydd
Withdrawal of Managed Lettings and Over 55’s Schemes by North East Wales (NEW) Homes
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 245)
Pwrpas: Rhoi gwybodaeth am y broses ar gyfer Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWYDD) am y tynnu'n ôl o'r cynlluniau Gosodiadau Rheoledig a Thros 55.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Attridge adroddiad North East Wales (NEW) Homes yn Tynnu Eiddo Gosod a Reolir a Chynlluniau i Bobl Dros 55 Oed Yn Ôl
Roedd yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth i NEW Homes ddechrau’r broses a gynlluniwyd o dynnu ‘eiddo gosod a reolir’ ac eiddo i bobl dros 55 oed yn ôl a thynnu’r amcan corfforaethol “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o Gynllun Busnes NEW Homes.
Mae hefyd wedi’i nodi yn yr adroddiad sut roedd y Cyngor yn ceisio datblygu’r cynnig drwy system ddarparu amgen.
Roedd y Cyngor yn cynnal trafodaethau cynnar gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weld a fyddent yn fodlon cymryd eiddo gosod a reolir NEW Homes ar yr un telerau a lle roedd y landlord yn cymeradwyo. O ran y ddau eiddo i bobl dros 55 oed, oherwydd natur ddiamddiffyn y tenantiaid, cynigiwyd eu bod yn cael eu cadw o fewn y Cyngor a’u rheoli drwy’r tîm Dewisiadau Tai fel rhan o’r gwasanaeth llety dros dro.
Dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod wedi’i siomi gyda’r newyddiaduraeth ddiweddar ar hyn. Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai cywiriad yn cael ei gyhoeddi gan yr awdur a byddai datganiad gan y Cyngor yn cael ei gyhoeddi hefyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo NEW Homes i dynnu’n ôl o’r cynlluniau hyn a chymeradwyo tynnu’r amcan corfforaethol a ganlyn “Darparu cynnig cystadleuol i landlordiaid i annog twf y sector rhentu preifat” o’r cynllun busnes; a
(b) Cymeradwyo archwilio systemau darparu amgen ar gyfer yr eiddo gosod a reolir fel rhan o ddatblygiad ehangach y ddarpariaeth Sector Rhentu Preifat.