Mater - cyfarfodydd

A Growth Deal for the Economy of North Wales: Proposition Document

Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 242)

242 Bwrdd Uchelgais Economaidd a'r Ddogfen Gais pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Argymell i'r Cyngor Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2017/18 i'w fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cynnig Bargen Dwf ar gyfer Economi Gogledd Cymru: Dogfen Gynnig a oedd yn dilyn y Weledigaeth a fabwysiadwyd gan y Cabinet ym mis Medi 2016.

 

                        Cafodd dyddiad targed ar gyfer ffurfio Cytundeb Penawdau'r Telerau ar gyfer Bargen Dwf gyda’r ddwy lywodraeth ei osod fel hydref/gaeaf 2018.  Roedd Dogfen Gynnig, a oedd yn nodi’r rhaglenni gweithgareddau blaenoriaeth ar gyfer y rhanbarth ac roedd cyllid cenedlaethol yn cael ei geisio ar eu cyfer drwy’r Fargen Dwf, wedi’i chymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  Byddai’r Fargen Dwf yn ariannu rhaglenni a phrosiectau dethol o’r Ddogfen Gynnig.  Roedd y ddogfen gyfystyr â’r cynnig rhanbarthol a fyddai’n arwain at fargen.

 

                        Yn ystod mis Hydref, roedd y partneriaid rhanbarthol yn cael eu gwahodd i gymeradwyo’r Ddogfen Gynnig i roi mandad i’w Harweinwyr i lunio Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda’r ddwy Lywodraeth.  Ar ôl Penawdau'r Telerau, byddai’r rhanbarth yn mynd i gam terfynol datblygu Cynnig a thrafod gyda Llywodraethau.

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a rhoddodd fanylion yr holl waith rhanbarthol a oedd wedi’i wneud.  Ychwanegodd wrth gymeradwyo’r argymhellion ar gyfer cyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, na fyddai’r Cyngor yn gwneud unrhyw ymrwymiad i fuddsoddiad ariannol ei hun, a byddai’n cymeradwyo cyflwyno Cynnig ffurfiol i’w ystyried gan Lywodraethau yn unig.  Byddai risgiau a manteision terfynol Bargen Dwf derfynol yn cael eu hadrodd ar yr ail gam cymeradwyo a’r cam cymeradwyo terfynol, ynghyd â’r model ar gyfer rhannu unrhyw gostau benthyca ymhlith partneriaid rhanbarthol.

 

                        Pwysleisiodd bwysigrwydd y rhaglenni blaenoriaeth, fel cludiant strategol a chysylltedd digidol.  Cytunodd y Cynghorydd Butler a rhoddodd sylwadau am y manteision i fusnesau o bob maint yn y rhanbarth. 

 

                        Croesawodd y Cynghorydd Attridge yr adroddiad hefyd, a oedd yn golygu bod amser cyffrous o flaen Sir y Fflint a’r rhanbarth, a mynegodd ddiolch arbennig i’r Cynghorydd Shotton a’r Prif Weithredwr am faint o waith roedd y ddau wedi’i gyfrannu at y rhaglen hyd yma.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Ddogfen Gynnig ar gyfer argymell i’r Cyngor i’w fabwysiadu fel (1) sail strategaeth rhanbarthol mwy hirdymor ar gyfer twf economaidd a (2) sail ranbarthol ar gyfer y rhaglenni a phrosiectau blaenoriaeth y bydd cynnwys Bargen Dwf yn cael ei dynnu ohonynt yn y cam Cytundeb Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau.  Nid yw mabwysiadu yn ymrwymo’r Cyngor i unrhyw fuddsoddiad ariannol ei hun ar y cam hwn ac mae’n amodol ar risgiau a manteision ariannol y Fargen Dwf derfynol yn cael eu nodi mewn manylder, i’w hystyried yn llawn, pan gaiff y Fargen derfynol ei chyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth yn ddiweddarach; a

 

(b)       Bod yr Arweinydd yn cael ei awdurdodi i ymrwymo’r Cyngor i lunio Penawdau'r Telerau gyda Llywodraethau ochr yn ochr â’r arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol o’r naw partner statudol arall a gynrychiolir ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chyngor Busnes Mersi a’r Ddyfrdwy Gogledd Cymru gyda’r Ddogfen Gynnig yn nodi’r paramedrau ar gyfer cytundeb penawdau'r telerau.