Mater - cyfarfodydd

Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) Case Book

Cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 24)

Llyfr Achos Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)

Pwrpas:        I dderbyn diweddariad llafar ar Lyfr Achos yr Ombwdsmon (dolen isod).

 

https://www.ombudsman.wales/wp-content/uploads/2018/08/Code-of-Conduct-Casebook-Eng-Issue-17-July-2018.pdf

Cofnodion:

Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro drosolwg o ganlyniadau’r cwynion a gafodd eu hymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel a ddangosir yn rhifyn mwyaf diweddar Llyfr Achosion yr Ombwdsmon.  Roedd dolen i’r Llyfr Achosion wedi’i chynnwys ar y rhaglen er gwybodaeth.  O'r tri achos, doedd dim tystiolaeth o dorri amod yn un achos, a doedd dim angen gweithredu yn y ddau achos arall.

 

Ar achos lle roedd aelod â chysylltiad personol a chysylltiad oedd yn rhagfarnu wedi siarad mewn cyfarfod, dywedodd Julia Hughes er bod y Cadeirydd caniatáu hynny, cyfrifoldeb aelodau unigol yw gwybod na ddylent siarad.  Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ac eglurodd bod yr amgylchiadau lliniaru oedd yn gysylltiedig â'r achos penodol hwn yn golygu nad oedd angen gweithredu pellach.