Mater - cyfarfodydd
Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) Case Book
Cyfarfod: 01/10/2018 - Pwyllgor Safonau (eitem 24)
Llyfr Achos Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)
Pwrpas: I dderbyn diweddariad llafar ar Lyfr Achos yr Ombwdsmon (dolen isod).
Cofnodion:
Darparodd y Dirprwy Swyddog Monitro drosolwg o ganlyniadau’r cwynion a gafodd eu hymchwilio gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel a ddangosir yn rhifyn mwyaf diweddar Llyfr Achosion yr Ombwdsmon. Roedd dolen i’r Llyfr Achosion wedi’i chynnwys ar y rhaglen er gwybodaeth. O'r tri achos, doedd dim tystiolaeth o dorri amod yn un achos, a doedd dim angen gweithredu yn y ddau achos arall.
Ar achos lle roedd aelod â chysylltiad personol a chysylltiad oedd yn rhagfarnu wedi siarad mewn cyfarfod, dywedodd Julia Hughes er bod y Cadeirydd caniatáu hynny, cyfrifoldeb aelodau unigol yw gwybod na ddylent siarad. Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro ac eglurodd bod yr amgylchiadau lliniaru oedd yn gysylltiedig â'r achos penodol hwn yn golygu nad oedd angen gweithredu pellach.