Mater - cyfarfodydd

Registration Service Fees and Income Generation

Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 246)

246 Ffioedd y Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw cael cymeradwyaeth i adolygu ac adnabod cyfleoedd i ymestyn yr ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Cofrestru, a chymeradwyo rhestr brisiau newydd.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Ffioedd Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm a oedd yn nodi cyfleoedd i’r awdurdod lleol ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cofrestru ac amlinellu ffioedd anstatudol ar gyfer 2020/21.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y gwasanaeth wedi’i leoli yn Neuadd Llwynegrin, a bod dwy ystafell seremoni yno. Roedd cyfle nawr i’r gwasanaeth gynnig ystafell drwyddedig ychwanegol ar gyfer seremonïau neu i gynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau ategol a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys y posibilrwydd o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Clwyd neu NEWydd.

 

            Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn enghraifft dda o godi incwm ychwanegol wrth ddarparu amrywiaeth well o wasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cefnogi’r Gwasanaethau Cofrestru gyda’u hadolygiad i nodi cyfleoedd i ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau i gwsmeriaid gan gynhyrchu ffrydiau incwm newydd ar gyfer yr Awdurdod Lleol;

 

(b)       Cymeradwyo’r atodlen ffioedd ddiwygiedig ar gyfer 2019/20; ac

 

(c)        Cymeradwyo atodlen ffioedd newydd ar gyfer 2020/21.