Mater - cyfarfodydd
Registration Service Fees and Income Generation
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 246)
246 Ffioedd y Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm PDF 101 KB
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw cael cymeradwyaeth i adolygu ac adnabod cyfleoedd i ymestyn yr ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Cofrestru, a chymeradwyo rhestr brisiau newydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin adroddiad Ffioedd Gwasanaeth Cofrestru a Chynhyrchu Incwm a oedd yn nodi cyfleoedd i’r awdurdod lleol ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cofrestru ac amlinellu ffioedd anstatudol ar gyfer 2020/21.
Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y gwasanaeth wedi’i leoli yn Neuadd Llwynegrin, a bod dwy ystafell seremoni yno. Roedd cyfle nawr i’r gwasanaeth gynnig ystafell drwyddedig ychwanegol ar gyfer seremonïau neu i gynyddu’r amrywiaeth o wasanaethau ategol a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys y posibilrwydd o weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Clwyd neu NEWydd.
Roedd y Prif Weithredwr yn croesawu’r adroddiad a oedd yn enghraifft dda o godi incwm ychwanegol wrth ddarparu amrywiaeth well o wasanaethau.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r Gwasanaethau Cofrestru gyda’u hadolygiad i nodi cyfleoedd i ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau i gwsmeriaid gan gynhyrchu ffrydiau incwm newydd ar gyfer yr Awdurdod Lleol;
(b) Cymeradwyo’r atodlen ffioedd ddiwygiedig ar gyfer 2019/20; ac
(c) Cymeradwyo atodlen ffioedd newydd ar gyfer 2020/21.