Mater - cyfarfodydd
Digital Customer Overview
Cyfarfod: 17/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 30)
30 Trosolwg Cwsmer Digidol PDF 98 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar gynnydd a sicrwydd i aelodau ynghylch yr egwyddorion dylunio sy’n tanategu creu canolfan gyswllt unigol fel rhan o ddarpariaeth thema cwsmeriaid digidol y strategaeth ddigidol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i roi’r sefyllfa ddiweddaraf ac i roi sicrwydd i’r Pwyllgor am yr egwyddorion dylunio sydd yn sail i greu un canolfan gyswllt fel rhan o gyflwyno thema cwsmer digidol y strategaeth ddigidol.
Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cabinet ym mis Mawrth 2018 wedi cytuno i greu un Canolfan Gyswllt gan ddechrau i gychwyn wrth uno’r Canolfannau Cyswllt sydd yng ngwasanaethu Strydwedd a Thai. Fe amlinellodd brif amcanion y prosiect, sef adeiladu gwytnwch o fewn y tîm cyfun i ddelio'n effeithiol gydag amseroedd prysur, absenoldeb staff a swyddi gwag, gwella darpariaeth Gymraeg, a rhoi mynediad i gwsmeriaid at sawl gwasanaeth trwy eu Cyfrif Cwsmer.
Eglurodd y Prif Swyddog fel rhan o wella gwasanaethau digidol, byddai’r Cyngor yn diweddaru galluedd ar-lein y meddalwedd tai i alluogi tenantiaid i gysylltu’n uniongyrchol i weld manylion eu cyfrif tai o dudalen Cyfrif Cwsmer Sir y Fflint ar wefan y Cyngor, a gweld manylion am eu cyfrif rhent, atgyweiriadau, ceisiadau, gwybodaeth am y cyfrif, a gwneud taliadau.
Roedd cam cyntaf y prosiect ar gyfer canolfan gyswllt cyfun yn cael ei weithredu trwy ganolbwyntio ar uno rolau Tai a Strydwedd mewn i swydd-ddisgrifiad gyffredin ar gyfer gweithwyr canolfan gyswllt a phenodi rheolwr i oruchwylio’r un gwasanaeth; adolygu a gwella’r wybodaeth a chynnwys ar wefan Sir y Fflint er mwyn i gwsmeriaid ddod o hyd i wybodaeth a hunan-wasanaethu; a gweithredu gallu ar-lein Tai. Roedd disgwyl i Gymal 1 fod yn weithredol o ganol mis Mawrth 2019, serch hynny, byddai adolygiad o’r sefyllfa staff a thechnegol yn cael ei gynnal ymlaen llaw i sicrhau y byddai gwasanaethau’n cael eu cyflwyno heb unrhyw amhariad i'r ansawdd.
Dywedodd y Prif Swyddog bod trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal gyda gwasanaethau eraill i adnabod a chytuno ar sgôp gwasanaethau a allai gael eu symud i’r ganolfan gyswllt gyfun yn nes ymlaen. Y bwriad oedd cael canolfan gyswllt cwbl gyfun yn gweithredu o D? Dewi Sant, Ewloe o fis Ebrill 2020. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai adroddiad pellach am y Strategaeth Ddigidol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i roi diweddariad am gynnydd yn gynnar flwyddyn nesaf. Cyfeiriodd hefyd at y gweithdy Strategaeth Ddigidol a fyddai’n cael ei gynnal i bob Aelod ar 16 Ionawr 2019.
Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett a fyddai’r strategaeth ddigidol yn cael ei gyflawni ar amser. Cyfeiriodd hefyd at yr arian buddsoddi i arbed a oedd wedi’i ddyrannu, sef £550,000, a gofynnodd ai un dyraniad oedd hwn neu ddyraniad blynyddol. Wrth ymateb dywedodd y Prif Swyddog bod y rhaglen ar y trywydd ar gyfer ganol Mawrth y flwyddyn nesaf, serch hynny, byddai asesiad o barodrwydd i’r gwasanaethau fod yn ‘fyw’ yn cael ei gynnal ymlaen llaw i sicrhau na fyddai unrhyw amhariad i’r gwasanaethau. Gan gyfeirio at £550,000 a oedd wedi’i ddyrannu, dywedodd y Prif Swyddog nad oedd hwn yn gost flynyddol a byddai’r arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu tair swydd allweddol newydd er mwyn cyflwyno prosiect, meddalwedd a thrwyddedau Cwsmer Digidol. Dywedodd y Prif Swyddog ... view the full Cofnodion text for item 30