Mater - cyfarfodydd
Capital Programme Monitoring 2018/19 (Month 6)
Cyfarfod: 20/11/2018 - Cabinet (eitem 263)
263 Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6) PDF 124 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth rhaglen gyfalaf Mis 6 (diwedd mis Medi) 2018/19 ar gyfer Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme 2018/19 (Month 6), eitem 263 PDF 58 KB
- Enc. 2 for Capital Programme 2018/19 (Month 6), eitem 263 PDF 99 KB
- Enc. 3 for Capital Programme 2018/19 (Month 6), eitem 263 PDF 70 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19 (Mis 6), a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2018/19 ers iddi gael ei gosod yn Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 6 (Medi 2018), ynghyd â gwariant hyd yma ac alldro wedi’i ragweld.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £6.105 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Gostyngiadau net yn y rhaglen o £6.031 miliwn (CF £1.264 miliwn, Cyfrif Refeniw Tai £7.925 miliwn); a
· Dwyn ymlaen i 2019/20, cymeradwywyd ym Mis 4 (£0.074 miliwn).
Y gwariant gwirioneddol oedd £25.985 miliwn.
Yr alldro terfynol ar gyfer 2017/18 oedd diffyg ariannu bach o £0.068 miliwn. Bu nifer fach o dderbyniadau cyfalaf yn y flwyddyn, a oedd yn gosod y diffyg ariannu cyfredol, am y cyfnod o 3 blynedd, yn £8.577 miliwn, ynghyd â diffyg a ragamcanwyd o £8.216 miliwn yn rhaglen gyfalaf 2018/19 i 2020/21, cais am ddyraniad ychwanegol o £0.500 miliwn tuag at adleoli gwasanaethau i Unity House a chynnydd bach yn y cyllid cyfalaf a gyhoeddwyd yn y Setliad Dros Dro. Roedd hyn cyn y gwireddwyd unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu gyllid arall.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran cario cyllid ymlaen, a nodir yn yr adroddiad.