Mater - cyfarfodydd
Draft Rights of Way Improvement Plan 2018-2028
Cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet (eitem 228)
228 Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 PDF 98 KB
Pwrpas: Ymgynghori gydag aelodau ar y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2018-2028 newydd cyn ei ryddhau ar gyfer ymgynghoriad statudol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Draft Rights of Way Improvement Plan 2018-2028, eitem 228 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Draft Rights of Way Improvement Plan 2018-2028, eitem 228 PDF 515 KB
Cofnodion:
Bod y polisi presennol yn cael ei archwilio, ardaloedd blaenoriaeth yn cael eu hadnabod a Datganiad Gweithredu o arddull newydd yn cael ei gyflwyno.
Allan o’r 22 o dasgau wedi’u hadnabod, saith wedi eu cwblhau neu wedi gwneud cynnydd sylweddol. Saith wedi gwneud ychydig iawn o gynnydd neu ddim o gwbl ac wyth wedi gwneud cynnydd yn rhannol.
Mae’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yn 2018 yn cynnwys oddeutu 1800 o lwybrau cyhoeddus unigol. Trosolwg strategol o’r rhwydwaith wedi’i gyflawni mewn perthynas i ddeddfwriaeth, strategaeth a dogfennau perthnasol ar lefel cenedlaethol a sirol. Mae’r darganfyddiadau o'r adolygiad ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad, yr adolygiad desg o strategaethau a chynlluniau perthnasol, a gwerthusiad o gyflwr presennol y rhwydwaith wedi’u hamlinellu’n llawn yn yr adroddiad.
Cyfleoedd wedi'u hadnabod yn y Datganiad Gweithredu wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad hefyd. Mae llyfryn Polisi a Gweithdrefn wedi’i ddatblygu ac y byddai ar gael i ddefnyddwyr y rhwydwaith ac i berchnogion tir. Byddai hyn yn sicrhau fod dealltwriaeth a thryloywder dros ardal eang ar yr hyn y mae’r awdurdod wedi’i wneud a sut y mae wedi gwneud hynny.
Byddai ymgynghoriad tri mis statudol yn cael ei gynnal ar y drafft.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cynllun Drafft Gwella Hawliau Tramwy a’r llyfryn Polisi a Gweithdrefnau
yn cael eu nodi; a
(b) Bod y Cynllun a’r llyfryn Polisi yn cael eu rhyddhau ar gyfer y cyfnod tri mis
statudol o ymgynghori â'r cyhoedd.