Mater - cyfarfodydd

Phase 2 Speed Limit Review Update

Cyfarfod: 19/09/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 17)

17 Diweddariad o Gam 2 Adolygiad Terfyn Cyflymder pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad Terfyn Cyflymder ar draws y Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd yr Adolygiad o Derfynau Cyflymder ar draws y Sir gyfan.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac esboniodd bod yr adroddiad yn ceisio diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd a oedd wedi’i wneud hyd yma yn ogystal â darparu manylion nifer o heriau cyfreithiol yn erbyn y broses arfaethedig, sydd wedi’u goresgyn ers hynny.  Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio hysbysu’r Pwyllgor am yr amserlenni diwygiedig gyda chynnydd Gorchymyn Cyfunol Sengl sy’n cwmpasu’r rhwydwaith priffyrdd cyfan, ac esbonio’r cynigion hefyd er mwyn hwyluso ceisiadau aelodau a gefnogwyd gan feini prawf yr Adran Drafnidiaeth (DfT).

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y camau gweithredu allweddol a gynhaliwyd ac esboniodd, er mwyn diddymu’r orddibyniaeth ar Wasanaethau Cyfreithiol, roedd y swyddogion Strydlun a Thrafnidiaeth wedi datblygu system o dempledi cymeradwy a oedd wedi’u galluogi i gwblhau ‘Gorchymyn Sengl’ yn awr y byddai pob terfyn amser (y rhai presennol a’r rhai arfaethedig) yn cael eu hysbysebu.  Roedd defnyddio’r dull diwygiedig hwn wedi symleiddio’r weithdrefn orgymhleth flaenorol o safoni’r broses ysgrifennu gorchymyn ar gyfer unrhyw sefyllfa.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Rheolwr Strategaeth Priffyrdd adrodd ar yr ystyriaethau allweddol yn yr adroddiad ar y cynnydd o gyflawni’r adolygiad o derfynau cyflymder ar bob priffordd gyhoeddus.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd, yn dilyn y cynnig i hysbysebu’r ‘Gorchymyn Sengl’ drwy ddefnyddio map modern yn seiliedig ar amserlen, yr oedd swyddogion wedi cwblhau map yn awr yn seiliedig ar system sy’n cynnwys rhwydwaith priffyrdd y Sir lle’r oedd Llyfrau Mapiau unigol wedi’u creu.  Roedd pob Llyfr Cyfeirio Map yn cynnwys system fynegeio glir a oedd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i leoli ardaloedd o ddiddordeb yn uniongyrchol o fewn eu man preswylio ac ar draws y Sir.

 

Dywedodd y Prif Swyddog, er bod cynnydd wedi’i wneud gyda’r Gorchymyn Cyfunol, ni fu heb ei heriau, fel y’u nodir yn yr adroddiad.  Soniodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd am yr heriau a dderbyniwyd o ran hysbysebu terfynau cyflymder 30mya a 60mya a chyfeiriodd at y ddeddfwriaeth genedlaethol o ran terfynau cyflymder a goleuadau stryd.  Aeth ymlaen i esbonio, at ddibenion terfynau cyflymder, y gallai goleuadau stryd for ar sawl ffurf wahanol a’u bod yn cynnwys colofnau goleuadau y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt, Goleuadau Cymunedol a Goleuadau Llwybrau Cerdded.  Er bod systemau mewnol yr Awdurdod yn cofnodi safle pob un o’r Colofnau Goleuadau Stryd y mae’r Cyngor Sir yn berchen arnynt ac y maent yn eu cynnal a’u cadw, ni fyddai’n cynnwys y gwahanol ddosbarthiadau o oleuadau a ddisgrifiwyd, ac roedd yn bwysig sicrhau bod safle cywir pob colofn goleuadau stryd yn hysbys (waeth pwy sy’n berchen arnynt) cyn penderfynu a fyddai terfyn cyflymder o 30mya neu 60mya yn arwain at wneud gorchymyn.  Dywedodd y Rheolwr Strategaeth Priffyrdd bod arolwg mewnol manwl wedi’i gomisiynu’n fewnol er mwyn cofnodi’r nifer o oleuadau stryd ar derfynau cyflymder 60mya a 30mya (waeth pwy sy’n berchen arnynt) a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn Hydref 2018.  Ar ôl ei gwblhau, bydd swyddogion yn  ...  view the full Cofnodion text for item 17