Mater - cyfarfodydd
Annual Review of Strategic Risks
Cyfarfod: 12/09/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 24)
24 Adolygiad Blynyddol o Risgiau Strategol PDF 128 KB
Yr Aelodau i’w hysbysu ynghylch sefyllfa risg strategol gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2017/18.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Council Plan 2017-18 Summary risk register, eitem 24 PDF 253 KB
- Enc. 2 - Council Plan 2017-18 Risk Report, eitem 24 PDF 306 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddatganiad sefyllfa blynyddol ar y risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18. Roedd hyn er mwyn sicrhau'r Pwyllgor fod y lefelau risg o dan reolaeth y Cyngor yn symud mewn cyfeiriad cadarnhaol ac yn cael eu rheoli’n llwyddiannus.
Adroddwyd bod y 48 o risgiau strategol o fewn Cynllun y Cyngor wedi eu rheoli'n llwyddiannus, gyda'r rhan fwyaf yn cael eu hasesu fel rhai mân / ansylweddol neu gymedrol, oedd yn sefyllfa well na’r asesiad risg cychwynnol. Nid oedd y proffil risg wedi newid llawer dros y cyfnod gyda 12 o risgiau mawr (coch) yn parhau, a llawer o’r rheiny yn ddibynnol ar ffactorau allanol. Yn ystod crynodeb o’r risgiau coch, adroddwyd am gynnydd da ar waith oedd yn cael ei wneud i wella amseru Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. O ran argaeledd gwelyau gofal cartref nyrsio a phreswyl, gobeithiwyd y byddai ymestyn Marleyfield yn effeithio’n gadarnhaol ar y statws risg. Byddai angen cael gwybodaeth gan y Cynllun Datblygu Lleol yngl?n â pharu lleoedd ysgolion gyda demograffeg sy’n newid. Er mwyn cwrdd yr her ariannol, roedd gweithdai cyllido wedi eu trefnu er mwyn ystyried amrywiaeth o opsiynau er mwyn cydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2019/20, fodd bynnag roedd hyn yn ddibynnol ar setliad ariannol cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r statws ar gyfer crynodeb diwedd blwyddyn 2017/18 o risgiau strategol blaenoriaethau’r Cyngor; yn cymeradwyo rheolaeth lwyddiannus y risgiau, lle mae’r rhain yn cael eu rheoli gan y Cyngor.