Mater - cyfarfodydd
LGPS Update
Cyfarfod: 05/09/2018 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 22)
22 Diweddariad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol PDF 92 KB
Darparu gwybodaeth i Aelodau’r Pwyllgor ynghylch y materion sy’n effeithio ar reolaeth y CPLlL ar hyn o bryd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhannodd Ms Gemmell yr wybodaeth ddiweddaraf yn gryno yngl?n â materion oedd yn effeithio ar y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Dywedodd Ms Gemmell y byddai’r Rheoleiddiwr Pensiynau’n ymweld â deg o gronfeydd i asesu ansawdd eu data a chynnig gwelliannau. Ymweliadau dirybudd fyddai'r rheiny, a byddai’n ddoeth i Gronfeydd ddisgwyl i’r Rheoleiddiwr Pensiynau gysylltu â hwy. Cadarnhaodd hefyd na fyddai Cyllid a Thollau’n trethu unrhyw Gredydau Ymadael yr oedd cronfeydd yn eu talu pan roedd cyflogwr yn creu gwarged yn y Gronfa. Cyfeiriwyd at Adroddiad Adran 13 Adran Actiwari'r Llywodraeth a oedd i’w ddisgwyl fis Medi 2018, a chadarnhawyd y cafodd y Gronfa adroddiad da.
PENDERFYNWYD:
Nododd aelodau’r Pwyllgor yr adroddiad hwn a gwneud eu hunain yn ymwybodol o’r gwahanol faterion sy’n effeithio ar y CPLlL ar hyn o bryd - roedd rhai o'r rheiny yn arwyddocaol weithrediad y Gronfa.