Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 5)
Cyfarfod: 23/10/2018 - Cabinet (eitem 247)
247 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 5) PDF 147 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 5 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 5), a oedd yn nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran monitro’r gyllideb refeniw yn 2018/19 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol ym Mis 5 y flwyddyn ariannol. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.
Y sefyllfa a ragamcanwyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran cost a/neu wella’r elw ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredol o £0.303m (£0.60m ym Mis 4); a
· Rhagamcanir y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2019 yn £7.318m.
Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.067m yn is na’r gyllideb; a
· Rhagamcanir y bydd y balans terfynol ar 31 Mawrth 2019 yn £1.165m.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys sefyllfa ragamcanol Cronfa'r Cyngor; sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio; lleoliadau y tu allan i’r sir; cyllid canolog a chorfforaethol; olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; cyflawni arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill a gaiff eu holrhain; ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol; incwm; incwm o ailgylchu; ysgolion - risgiau ac effaith; materion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau; a chronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi.
O ran risgiau ac effaith ysgolion, darparwyd datganiad, sydd wedi’i atodi i’r cofnodion, sy’n nodi bwriad y Cyngor o ran delio â’r Dyfarniad Cyflog Athrawon.
Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y prosesau sy’n ymwneud â’r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai;
(c) Bod dyraniad o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer ariannu’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) yn cael ei gymeradwyo mewn egwyddor; a
(d) Bod 1% o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu costau’r dyfarniad cyflog yn ystod y flwyddyn ar gyfer y cyfnod 1 Medi 2018 i 31 Mawrth 2019 yn cael ei ddosbarthu’n llawn i’n rhwydwaith ysgolion lleol pan fydd yr arian wedi dod i law. Bydd gofyn i ysgolion ganfod yr 1% sy’n weddill o’r dyraniad o’u cyllidebau eu hunain ar gyfer y cyfnod hwn. Wrth gynllunio’r gyllideb ar gyfer 2019/20, bwriad y Cyngor yw y bydd yn darparu ar gyfer ymgodiad yn y cyllid sylfaen ar gyfer ysgolion i fodloni 1% o’r dyfarniad cyflog, fel isafswm. Dyhead y Cyngor yw bod mewn sefyllfa i ddarparu ymgodiad ar gyfer y swm llawn. Fodd bynnag, nid yw’r Cyngor mewn sefyllfa i gadarnhau’r isafswm darpariaeth na’r dyhead o ran darpariaeth ar y cam hwn yn y broses genedlaethol o osod y gyllideb oherwydd bod ... view the full Cofnodion text for item 247