Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2018/19 (month 4)
Cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet (eitem 233)
233 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (mis 4) PDF 131 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2018/19 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Mis 4) a oedd yn cyflwyno’r sefyllfa o ran monitro canlyniadau cyllideb refeniw 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.Dyma’r adroddiad monitro llawn manylion cyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd sy’n cyflwyno’r sefyllfa, yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol, o Fis 4 y flwyddyn ariannol. Mae’n mynegi sut y byddai’r gyllideb yn edrych fel ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os byddai pob dim yn aros yr un fath.
Y sefyllfa arfaethedig ar ddiwedd y flwyddyn, heb weithredoedd newydd i leihau pwysau cost ac/neu wella ymateb ariannol ar gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost, oedd:
Cronfa’r Cyngor:
· Diffyg gweithredol o £0.660m (rhagolwg gwariant net gwirioneddol yn y flwyddyn yn dangos £2.680m dros ben unwaith y bydd effaith positif o gyfraniad o £1.400m yn ddyledus i’r newid y cytunwyd arno i’r polisi cyfrifo ar gyfer Isafswm Darpariaeth Refeniw a derbynneb o ad-daliad TAW o £1.940m wedi’i gynnwys, gan nodi fod y ddau swm yn cael eu hargymell i’w dyrannu i’r Gronfa Arian at Raid i gefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig); ac
· Balans cronfa arian at raid arfaethedig o £8.145 miliwn ar 31 Mawrth 2019.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagolwg gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.007 miliwn yn uwch na’r gyllideb; a
· Balans terfynol arfaethedig o £1.165 miliwn ar 31 Mawrth 2019.
Mae’r adroddiad yn cynnwys sefyllfa arfaethedig Cronfa'r Cyngor; sefyllfa arfaethedig yn ôl portffolio, olrhain risgiau yn ystod y flwyddyn a materion sy'n dod i'r amlwg; dyfarniad cyflog Cyd-gyngor Cenedlaethol; lleoliadau allan o’r sir, cyflawni arbedion effeithlonrwydd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn; risgiau eraill wedi’u holrhain; incwm, ailddefnyddio incwm; pwysau ysgolion, achosion eraill yn ystod y flwyddyn; cronfeydd wrth gefn a balansau, cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi; ac ymrwymiad lleihau carbon.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr bod y risgiau ar ddyfarniad cyflog i athrawon a chyfraniadau pensiwn, fel yr adroddir yn eitem rhif 4 o'r agenda, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad monitro cyllideb nesaf.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn oedd yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2019;
(b) Nodi'r lefel derfynol arfaethedig o falansau ar y Cyfrif Refeniw Tai;
(c) Bod dyraniad o £1.084m o’r Gronfa Arian at Raid yn cael ei gymeradwyo i gwrdd â’r pwysau cyllideb ychwanegol yn 2018/19 ar gyfer y dyfarniad cyflog y cytunwyd arno yn ogystal â’r 1% wedi’i gynnwys yng nghyllideb Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19;
(d) I gymeradwyo dyraniad o £0.100m o’r Gronfa Arian At Raid ar gyfer ariannu parhaus o’r Tîm Cyswllt Dioddefwyr o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol;
(e) Cymeradwyo trosglwyddiad o’r Gronfa Arian At Raid hyd at gyfanswm o £1.400m yn cael ei adennill o’r polisi cyfrifo ar gyfer y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw;
(f) Cymeradwyo trosglwyddiad o’r Gronfa Arian At Raid hyd at gyfanswm o £1.940m yn ddyledus o’r cyfanswm wedi’i dderbyn o’r ad-daliad TAW;
(g) Cymeradwyo clustnodi £0.296m o’r gyllideb Ymrwymiad Lleihau Carbon i’w ystyried ar gyfer cyfrannu at gostau yn ymwneud â phrosiect fferm solar ... view the full Cofnodion text for item 233