Mater - cyfarfodydd
Bailey Hill – Tri-Partite Management Agreement and Project Update
Cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet (eitem 235)
235 Bryn y Beili - Cytundeb Rheoli Tair Rhan a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect PDF 99 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cais Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer gwelliannau i Bryn y Beili yn yr Wyddgrug a cheisio cytundeb i ddechrau’r prosiect yn ffurfiol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Bailey Hill – Tri-Partite Management Agreement and Project Update, eitem 235 PDF 157 KB
- Enc. 2 for Bailey Hill – Tri-Partite Management Agreement and Project Update, eitem 235 PDF 156 KB
Cofnodion:
Gadawodd y Cynghorydd Bithell yr ystafell ar ôl datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a chysylltiad personol i’r eitem nesaf i gael ei thrafod.
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad Bryn Y Beili - Cytundeb Rheoli Tair Rhan a'r Wybodaeth Ddiweddaraf am y Prosiect oedd yn rhoi cefndir i’r cytundeb, cyflawni’r prosiect dros y dair blynedd nesaf a safle a rhwymedigaethau’r Cyngor.
Mae’r elfennau cymeradwy o brosiect Bryn Y Beili wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ynghyd â manylion cyllido’r prosiect. Fe dalodd deyrnged i’r Prif Swyddog, Ian Bancroft am ei waith ar y prosiect hwn. Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyda sylwadau'r Aelod Cabinet a dywedodd fod y gwaith wedi'i wneud yn golygu cais llwyddiannus a grant o £963,700.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo awdurdod dirprwyedig i fynd i gytundeb grant gyda Chronfa Dreftadaeth Y Loteri am £963,700m;
(b) Yr awdurdod dirprwyedig i symud ymlaen gyda phrosiect Bryn Y Beili gydag awdurdod i wario (cyllid gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri) a Chymorth Buddsoddi Amwynder Twristiaeth (TAIS) i gael ei gymeradwyo, ac awdurdod i gaffael ymgynghorydd arweiniol a chontractwyr yn dilyn hynny.
(c) Bod cytundeb cyfreithiol yn cael ei sefydlu ar gyfer datblygu a rheoli Bryn Y Beili gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn Y Beili ac i fod ag awdurdod dirprwyedig i wneud newidiadau bychain i’r ddogfen.