Mater - cyfarfodydd

Single Access Route to Housing (SARTH)

Cyfarfod: 25/09/2018 - Cabinet (eitem 230)

230 Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad am reolaeth y polisi Un Llwybr Mynediad at Dai yn Sir y Fflint a’r cydweithrediad rhanbarthol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) ac eglurodd fod ULlMaD yn brosiect partneriaeth rhwng yr holl brif landlordiaid cymdeithasol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n gwasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Bwrdeistref Sirol Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.

 

Mae’r Cyngor yn rheoli’r gofrestr tai ar ran Cyngor Sir Ddinbych sy’n cynnwys y brysbennu atebion tai yn ogystal â rheoli’r gofrestr tai cymdeithasol.  Mae galw am y gofrestr tai cymdeithasol wedi cynyddu dros y tair blynedd ac yn rhoi pwysau cynyddol ar reoli'r cofrestru ac yn arwain at amseroedd aros hirach am eiddo.

 

Cynhaliwyd adolygiad o'r polisi i adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol yn 2017. Roedd hefyd yn caniatáu i fynd i’r afael ag unrhyw achosion a godwyd ac i ddatblygu’r polisi fel ei fod yn ddogfen sy’n haws i’w defnyddio.   Mewn adolygiad o achosion a godwyd mewn panel gweithredol a gr?p llywio ni sefydlwyd bod angen gwneud newidiadau sylweddol i unrhyw egwyddorion allweddol o’r polisi.Fodd bynnag, cymerwyd y cyfle i ddatblygu dogfen oedd yn haws i’w darllen a’i deall.  Y tri phrif adran o fewn y polisi oedd: datganiad polisi; y cynllun bandio; a dyrannu eiddo.

 

Maes allweddol o waith oedd yr angen i ddatblygu dogfennau canllaw a gweithdrefnau gweithredu mwy cynhwysfawr a diweddar oedd yn dod o dan y polisi i staff ynghlwm â rheoli'r gofrestr a dyrannu tai.   Mae proses gweithredu cadarn yn cael ei gyflwyno trwy sesiynau hyfforddiant i grwpiau bychain ar gyfer yr holl staff sydd wedi bod yn rhan o reoli’r gofrestr neu ddyrannu eiddo.  Dyma hyfforddiant gorfodol a fyddai’n gwella cysondeb, perchnogaeth ac ymrwymiad ar draws y timau. 

 

Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a’r hyfforddiant oedd am gael ei gyflwyno i staff i sicrhau fod cysondeb yn y dull gweithredu.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod rheoli’r polisi Un Llwybr Mynediad at Dai (ULlMaD) yn Sir Y Fflint yn parhau i gael ei gefnogi; a

 

(b)       Bod y ddogfen polisi diweddaraf yn cael ei chefnogi.