Mater - cyfarfodydd
Action Tracking
Cyfarfod: 12/09/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 25)
25 Olrhain Gweithred PDF 71 KB
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y camau gweithredu sy’n codi o’r pwyntiau a godwyd mewn cyfarfodydd Pwyllgor Archwilio.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Rheolwr yr Adain Archwilio Mewnol yr adroddiad diweddariad ar gynnydd ar weithredoedd o gyfarfodydd blaenorol. Ar reoli’r risgiau strategol ers cyfarfod mis Mawrth 2018, dywedodd bod cyfarfod cychwynnol wedi ei drefnu ar gyfer 1 Hydref ar gyfer Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion er mwyn cytuno ar Gylch Gorchwyl.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraeth) y byddai'r cyfarfod yn mynd i’r afael â’r cwestiwn a godwyd yn flaenorol gan Sally Ellis ar rolau’r Pwyllgorau Archwilio a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod y peirianwaith adrodd olrhain gweithred – oedd yn arf effeithiol ar gyfer y Pwyllgor Archwilio – i’w beilota gyda’r holl bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, gan gychwyn gydag Adnoddau Corfforaethol.
Mynegodd y Cynghorydd Dolphin ei siom gyda'r diweddariad ysgrifenedig ar gynnydd Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas a ddarparwyd ar ôl y cyfarfod diwethaf. Gwrthododd y cynnig am ddiweddariad pellach.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.