Mater - cyfarfodydd

School Reserve Balances Year ending 31 March 2018

Cyfarfod: 12/09/2018 - Pwyllgor Archwilio (eitem 23)

23 Balansau Cronfeydd wrth Gefn Ysgolion y Flwyddyn Sy'n Dod i Ben ar 31 Mawrth 2018 pdf icon PDF 104 KB

Adrodd y lefel o falansau ysgol i’r Pwyllgor Archwilio ac amlygu’r peryglon a phrosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion mewn diffyg ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg a Ieuenctid) a’r Rheolwr Cyllid (Pobl ac Adnoddau) adroddiad ar y cronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint ar 31 Mawrth 2018. O’i gymharu â Mawrth 2017, adroddwyd lleihad o 11%.

 

Roedd y grynodeb sefyllfa yn dangos bod y cynnydd o 47% yn y diffyg net o'r cronfeydd wrth gefn gan ysgolion uwchradd yn cael ei osod yn erbyn cynnydd o 15% yng nghronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd.  Er bod y grant cynhaliaeth ysgolion gan Lywodraeth Cymru (LlC) wedi gwella sefyllfa ariannol balansau wrth gefn yr ysgolion, roedd y lefel a gynhelir gan ysgolion uwchradd â balansau cadarnhaol yn llai na 2%  o’r gyllideb.  Roedd effaith mesurau caledi parhaol ymysg nifer o ffactorau a olygodd y bu'n rhaid i ysgolion amsugno cost cynnydd chwyddiant.  Byddai newidiadau mewn demograffeg yn y  dyfodol yn golygu ailddosbarthu cyllid rhwng y sectorau cynradd ac uwchradd.

 

Siaradodd y Prif Swyddog am y cymhlethdodau o ran rheoli cyllidebau ysgolion yn ystod y cyfnod parhaus o galedi a nododd bod y sefyllfa yn cael ei monitro.  Bu croeso mawr gan ysgolion i gymorth parhaol gan gydweithwyr yn Adnoddau Dynol a Chyllid i helpu Penaethiaid ysgolion i ddatblygu strategaethau cryfion.  Rhoddwyd eglurder ar y dull gweithredu o ran ymdrin â balansau diffygiol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i nodi'r ysgolion sydd mewn peryg o symud i'r sefyllfa hon fel y gellid targedu cymorth.  Mae gan ysgolion uwchradd fynediad at yr offeryn meincnodi ysgolion cenedlaethol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd bellach yn cael ei addasu ar gyfer y sector cynradd.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod y lefel o gronfeydd wrth gefn mewn ysgolion yn bryder a’i fod yn adlewyrchu sefyllfa debyg mewn ysgolion ar draws y DU yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebau sylweddol.  Roedd yn rhaid i bob ysgol fabwysiadu trefniadau cynllunio busnes effeithiol, fodd bynnag dim ond gyda chynnydd mewn cyllid cenedlaethol lle roedd sylwadau wedi eu rhoi arnynt y byddai hyn yn effeithiol.  Dywedodd bod sefyllfa diffyg oedd yn gwaethygu ar falansau ysgolion yn Sir y Fflint yn risg corfforaethol i’r Cyngor a gofynnodd a ellid cofnodi hyn fel risg parhaol byw yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolog.

 

Roedd y Cynghorydd Dolphin am gael eglurder ar y metrig effeithlonrwydd fel rhan o’r offeryn meincnodi.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid bod ystod o ddata ysgolion yn cael ei asesu, oedd yn galluogi cymharu costau rhwng ysgolion o broffiliau tebyg er mwyn nodi sut gellid gweithio’n well.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, eglurodd y Prif Swyddog sut mae gwaith yn cael ei wneud gyda’r tîm Derbyn er mwyn modelu ystadegau cyfredol o fewn y system i gynhyrchu rhagdybiaethau bras ar lefelau derbyn y dyfodol.  Defnyddiwyd yr un ymagwedd ar gyfer ysgolion ffydd ac ysgolion cyfrwng Cymraeg.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y gellid gwneud ceisiadau ar gyfer lleoedd ysgol drwy’r adran Dderbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2018.