Mater - cyfarfodydd

Update on the Management of the Homeless Legislation Within the Housing (Wales) Act 2014

Cyfarfod: 17/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 19)

19 Diweddariad ar reoli'r ddeddfwriaeth ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014 pdf icon PDF 144 KB

Pwrpas:        I ddiweddaru’r Cabinet ar reoli deddfwriaeth ddigartrefedd, cynnydd o ran datblygu strategaeth ddigartrefedd ranbarthol, yr heriau y mae’r Cyngor yn eu hwynebu a’r dulliau o liniaru digartrefedd yn y sir.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid adroddiad oedd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf yngl?n â’r modd yr aethpwyd ati i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd ar ddigartrefedd o fewn Deddf Tai (Cymru) 2014, ynghyd â rhai o’r heriau i’r Cyngor oedd ar y gorwel.

 

            Yn 2017/18 bu cynnydd yn nifer yr aelwydydd a ddaeth at y Cyngor mewn perygl o ddigartrefedd, a defnyddiwyd mwy o lety dros dro.  Roedd y Cyngor yn ymrwymo i atal cysgu ar y stryd ac wedi gweithio i gynllunio gwasanaethau a defnyddio grantiau i liniaru ar y perygl o gostau llety dros dro yn cynyddu, fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Roedd y Tîm Dewisiadau Tai’n canolbwyntio lle bo modd ar atal digartrefedd a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, ac er mwyn sicrhau canlyniadau da yn hynny o beth, roedd ar y gwasanaeth angen cyflenwad o ddewisiadau tai oedd yn fforddiadwy ac y gellid eu darparu i aelwydydd oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.  Amlygwyd prinder y dewisiadau oedd ar gael fel problem gynyddol yn Adolygiad Digartrefedd Sir y Fflint, a byddai hynny’n ganolog i’r cynllun gweithredu a’r prosiectau fel y’u nodwyd yn yr adroddiad.

 

            Manylodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid ynghylch yr wybodaeth ddiweddaraf am yr heriau’r oedd y Cyngor yn eu hwynebu, fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, sef:-

 

·         Y Gofrestr Tai Cymdeithasol;

·         Cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael yn y sector rhentu preifat;

·         Llety Dros Dro;

·         Atal Cysgu ar y Stryd;

·         Aelwydydd Un Aelod; a

·         Phobl Ddiamddiffyn a Phobl ag Anghenion Cymhleth.

 

            I gloi, dywedodd y Rheolwr Cymorth i Gwsmeriaid fod Penaethiaid Tai pob yn o’r chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wedi cwrdd â Sefydliad Tai Siartredig Cymru fis Mehefin 2016, a bod pawb wedi ymrwymo i gydweithio wrth ddatblygu strategaeth digartrefedd ranbarthol.  Hysbysid y Cabinet o’r dull strategol a grybwyllwyd yn yr adroddiad ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, gan fod pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru’n llunio'i gynllun gweithredu lleol ei hun ar sail blaenoriaethau’r strategaeth ranbarthol.

 

            Soniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod angen cynyddu nifer y cartrefi oedd ar gael yn y Sector Rhentu Preifat, gan ddweud y dylai’r Cyngor fod yn ymwybodol o’r gwaith adeiladu ar gyfer y Wylfa Newydd ar Ynys Môn, a allai gael effaith negyddol ar lety yn y sector rhentu preifat, os nad oedd digon ar gael ar Ynys Môn ac yng Nghonwy.  Dywedodd ei bod yn hanfodol dal ati i adeiladu tai ledled Sir y Fflint drwy’r Rhaglen Strategol Tai ac Adfywio (SHARP), gan fod y Cyngor yn un o’r Awdurdodau Lleol prin hynny oedd yn adeiladu tai cymdeithasol newydd.     

 

            Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Tai fod y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad yn y bore, ond y gallai fynd ag unrhyw sylwadau gan yr Aelodau yn ystod y cyfarfod yn ôl i’r Cabinet fel y gellid eu hystyried.  Dywedodd fod y Cyngor yn medru darparu llety dros dro i bobl ddigartref, ond roedd hi’n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn dal i ddarparu cyllid er  ...  view the full Cofnodion text for item 19