Mater - cyfarfodydd

Outcome of Public Consultation on Public Transport and School Transport Anomalies

Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 217)

217 Deilliant Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anomeladdau Cludiant Ysgolion pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        I hysbysu Cabinet o ddeilliant yr ymgynghoriad, trefniadau cludiant lleol a'r camau nesaf i ddarparu gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy.  Mae'r adroddiad hefyd yn dangos manylion yr amserlen ar gyfer ymdrin ag anomaleddau o fewn trefniadau cludiant ysgolion a ddaeth i'n sylw yn dilyn adolygiad gwasanaeth ym mis Medi 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion yngl?n â’r dull a gynigiwyd ar gyfer ymdrin â threfniadau anstatudol ar gyfer cludiant i’r ysgol a sefydlwyd yn y gorffennol, a’r anghysonderau o ran y trefniadau hynny, yn sgil adroddiad a gyflwynwyd mewn gweithdy i’r holl Aelodau fis Tachwedd 2017. Cyflwynwyd adroddiad hefyd mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd ar 12 Gorffennaf.

 

            Gan gyfeirio at adolygu’r rhwydwaith bysus, esboniodd y Cynghorydd Thomas bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.

 

Er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cynaliadwy roedd yn ofynnol gwneud adolygiad trwyadl. Yn ystod y drefn ymgynghori cyflwynwyd pedwar o ddewisiadau i'r cyhoedd, Aelodau Etholedig a Chynghorau Tref a Chymuned. Sef:

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

Roedd yr Aelodau Etholedig a’r Cynghorau Tref a Chymuned yn bennaf o blaid Dewis 3, a chafwyd rhai ymatebion gan unigolion o blaid Dewis 2. Dewis 3 oedd yr un gorau gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr Amgylchedd hefyd.  Pe gweithredid y dewis hwnnw, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach.Byddai’r trefniadau hynny'n gweithio'n debyg i wasanaethau bws arferol, gydag amserlen a llwybrau parhaol. Efallai, serch hynny, na fyddai’r gwasanaethau bws bach yn mynd mor aml â'r bysus masnachol arferol nac yn cynnig yr un lefel o wasanaeth. Roedd llwybrau wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cwblhawyd y gwaith i optimeiddio llwybrau cludiant i’r ysgol ac ail-gaffael y gwasanaeth fis Medi 2017. Sicrhawyd y budd mwyaf posib drwy wneud defnydd mor effeithiol â phosib o’r cerbydau, cynllunio’r llwybrau yn y ffordd fwyaf cost effeithiol, a darparu cerbydau o faint addas yn ôl nifer y teithwyr cymwys. Wrth wneud y  ...  view the full Cofnodion text for item 217