Mater - cyfarfodydd

Outcome of Public Consultation on Public Transport and Social Transport Anomalies

Cyfarfod: 12/07/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 11)

11 Canlyniad Ymgynghoriad Cyhoeddus am Gludiant Cyhoeddus ac Anghysondebau gyda Chludiant Cymdeithasol pdf icon PDF 138 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor Craffu am ganlyniad yr ymgynghoriad                   am drefniadau cludiant lleol a’r amserlen ar gyfer delio gyda’r                 anghysondebau gyda threfniadau cludiant ysgolion a ganfyddwyd                 yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth ym mis Medi 2017.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad ynghylch Canlyniad yr Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gludiant Cyhoeddus ac Anghysonderau o ran Cludiant i'r Ysgol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yngl?n â'r llwybrau bws y rhoddwyd cymhorthdal ar eu cyfer, a chanlyniad yr ymgynghoriad yngl?n ag adolygu’r rhwydwaith bysus. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad er mwyn rhoi sylw i’r gwasanaethau hynny a sicrhau gwasanaeth cludiant cyhoeddus fforddiadwy a chynaliadwy yn y dyfodol.  

 

Adolygu’r Rhwydwaith Bysus

 

            Adroddodd Rheolwr y Rhaglen Cludiant ar yr adolygiad o’r rhwydwaith bysus. Er mwyn hwyluso’r adolygiad, cynhaliwyd proses ymgynghori gyhoeddus dros gyfnod o 8 wythnos gyda’r cyhoedd, aelodau etholedig a chynghorau tref a chymuned a wahoddwyd i roi adborth ar y cynigion. Y pedwar dewis a gyflwynwyd i’w hystyried oedd:-

 

  • Dewis 1 – rhoi’r gorau’n llwyr i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws;
  • Dewis 2 – gwneud dim a dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau hynny oedd eisoes yn eu cael;
  • Dewis 3 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer llwybrau yn y rhwydwaith craidd, a darparu dulliau cludiant gwahanol, cynaliadwy a lleol mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.
  • Dewis 4 – Dal i roi cymhorthdal ar gyfer y llwybrau yn y rhwydwaith craidd a chyflwyno gwasanaeth sy'n ymatebol i'r galw mewn cymunedau nad ydynt yn y rhwydwaith craidd.

 

            Roedd aelodau etholedig a chynghorau tref a chymunedyn bennaf o blaid Dewis 3, ond cydnabuwyd nad oedd un dewis i blesio pawb a byddai’n rhaid i’r agwedd tuag at gludiant amrywio o un ardal i’r llall yn dibynnu ar angen a galw lleol.    O dan y dewis a ffefrir, y nod fyddai darparu cludiant lleol mewn cymunedau nad oeddent yn y rhwydwaith craidd ar ffurf bysus bach, a oedd yn fwy addas ar gyfer natur y llwybrau mewn ardaloedd gwledig. Roedd llwybrau arfaethedig wedi’u nodi ar gyfer trefniadau teithio lleol, ac roedd rhestr o’r rheiny ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

            Daeth Rheolwr y Rhaglen Cludiant i’r casgliad y cynigiwyd bod y newid arfaethedig o ran darpariaeth gwasanaeth yn cael ei gyflwyno o 1 Hydref 2018 yn raddol ac roedd cynllun gweithredu ac amserlen arfaethedig ynghlwm wrth yr adroddiad. 

 

            Esboniodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y cwmnïau bysus wedi gwneud nifer o newidiadau yn y rhwydwaith bysus masnachol, a oedd wedi cael effaith ar gymunedau ac wedi creu bylchau posib yn y ddarpariaeth; nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hynny. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gadw’r rhwydwaith bysus dan adolygiad ac ymyrryd pan oedd hynny’n briodol.    

 

            Diolchodd y Cynghorydd Paul Shotton i’r swyddogion am yr adroddiad ac am y sesiynau ymgynghori helaeth a gynhaliwyd. Dywedodd, yn dilyn yr ymarfer ymgynghori, a ddengys yn yr adroddiad, ei bod yn ymddangos bod consensws ar gyfer Dewis 3 a bod y dewis hwn yn cysylltu’n dda â’r trefniant cludiant newydd ar gyfer Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.  Gofynnodd a oedd contractwr wedi’i ddewis i ddarparu Gwasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy. Dywedodd y Prif Swyddog bod y Cyngor wedi derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 11