Mater - cyfarfodydd
Strategic Equality Plan Annual Report 2016/18 and Welsh Language Annual Monitoring Report 2017/18
Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 208)
Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth Adroddiad Blynyddol terfynol y Gymraeg ar ddiwedd y Cyngor 2017/18 ac Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016/18 cyn ei gyhoeddi.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Welsh Language Annual Monitoring Report and Strategic Equality Plan Annual Report, eitem 208 PDF 452 KB
- Enc. 2 for Welsh Language Annual Monitoring Report and Strategic Equality Plan Annual Report, eitem 208 PDF 357 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Adroddiad Blynyddol 2016/18 ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Adroddiad Monitro Blynyddol 2017/18 ar yr Iaith Gymraeg, a oedd yn rhoi braslun o’r cynnydd a wnaethpwyd wrth gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb a Safonau’r Gymraeg, ac yn nodi meysydd ar gyfer gwella.
Rhannodd y Prif Weithredwr yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar yn sgil sylwadau a wnaethpwyd yng nghyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yngl?n â hybu dwyieithrwydd a diogelu pobl ifanc.
Rhoddodd y Swyddog Datblygu Polisi – Cydraddoldeb fanylion yngl?n â’r meysydd oedd eto i’w cyflawni, ac roedd manylion llawn am y rheiny yn yr adroddiad.
Cefnogodd y Cynghorydd Bithell y ‘cam nesaf’ o ran cyfathrebu’n gyson â’r gweithlu yngl?n â chydymffurfiaeth â’r drefn a hyrwyddo Safonau’r Gymraeg.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn ffyddiog y gwnaethpwyd cynnydd ar hyd y flwyddyn o ran cyflawni’r dyletswyddau statudol;
(b) Nodi’r meysydd ar gyfer gwella, a derbyn adroddiad ganol y flwyddyn yngl?n â’r cynnydd bryd hynny;
(c) Rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi’r adroddiadau ar wefan y Cyngor; a
(d) Chynnwys yr Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Adroddiad Monitro Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.