Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 28/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 61)

61 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad ar gadw pobl o’r ysbyty ac adref am gyfnod hirach yn cael ei drefnu ar gyfer mis Hydref, fel y ceisiwyd yn gynharach yn y cyfarfod.

 

Gofynnodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod eitem ar ofalwyr ifanc yn ei rhoi ar raglen mis Hydref gyda Barnardo's yn bresennol.

 

Yn dilyn trafodaeth gynharach, gofynnodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad presennol yr elfen ofal cymdeithasol o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Dywedodd yr Hwylusydd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn cael ei hysbysu fel rhan o’i gylch gwaith a byddai modd trefnu cyfarfod ar y cyd oes byddai angen. Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cynnwys diweddariad yn adroddiad perfformiad Chwarter 4 er mwyn galluogi’r Pwyllgor i benderfynu a oedd angen cyfarfod ar y cyd. Cytunodd yr Aelodau ar hyn.

 

Adroddodd y Swyddogion ar gau’r Windmill ym Mwcle ar ddiwedd mis Ebrill, a oedd yn darparu cymorth yn ystod y dydd i bobl h?n. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu â’r unigolion a oedd wedi’u heffeithio a’u teuluoedd er mwyn ymchwilio i opsiynau eraill a chadw ffrindiau gyda'i gilydd lle bo hynny’n bosibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor.