Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Social & Health Care)
Cyfarfod: 04/10/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 26)
26 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Dywedodd fod gweithdy’r gyllideb wedi’i drefnu i Aelodau’r Pwyllgor ar 10 Hydref. Byddai cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 31 Hydref 2018 i ystyried cynigion y gyllideb Cam 2.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 15 Tachwedd 2018, a dywedodd y cytunwyd y byddai’n cael ei gynnal yn Llys Raddington, y Fflint. Eglurodd byddai Aelodau’n cael cyfle i gael taith o’r adeilad cyn y cyfarfod a fyddai’n dechrau am 3.00pm.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.