Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Organisational Change)
Cyfarfod: 18/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 44)
44 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor i’w gynnal ar 13 Mai 2019, ac atgoffwyd yr Aelodau yn dilyn awgrym yn y cyfarfod diwethaf y cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones bod lleoliad cyfarfod nesaf y Pwyllgor i'w gynnal ar 1 Gorffennaf yn newid i Ganolfan Hamdden Treffynnon a dywedodd y byddai'n holi a oedd yna ystafell addas ar gael.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitem ar Bwll Nofio Cei Connah – Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19 ac eglurodd bod swyddogion yn aros am ddyddiadau addas gan Cambrian Aquatics fel y gellir trefnu cyfarfod gyda’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.