Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Education & Youth)
Cyfarfod: 20/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 9)
9 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er ystyriaeth. Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin ac yn dilyn cymeradwyo Amserlen Cyfarfodydd 2019/20 yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ym mis Mai 2019, roedd cyfarfodydd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol wedi eu cynnwys yn y Rhaglen.
Tynnodd yr Hwylusydd sylw at y cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 26 Medi gan ddweud y byddai canlyniad Arolygiad Estyn o Gyngor Sir y Fflint yn cael ei gynnwys er ystyriaeth. Dywedodd hefyd bod yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2019 er mwyn rhoi gwybodaeth am waith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod, ar ôl cwblhau cynlluniau busnes y portffolio Addysg ac Ieuenctid, yn ymgysylltu â’r Cadeirydd er mwyn ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Dywedodd yr Hwylusydd ei bod wedi anfon e-bost at holl aelodau’r Pwyllgor yn eu gwahodd i ddod i weld yr ysgol newydd ym Mhenyffordd ddydd Mawrth 5 Mehefin. Gofynnodd i'r aelodau sy’n dymuno mynd ar yr ymweliad roi gwybod iddi cyn gynted a phosibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i newidiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad a Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.