Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme (Education & Youth)

Cyfarfod: 21/03/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 7)

7 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Yn ystod y drafodaeth, cytunodd y Pwyllgor i wneud y newidiadau canlynol i'r Rhaglen:-

 

  • Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai a gofynnodd a ddylid gwahodd cynrychiolydd o Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd i egluro sut maent yn gweld yr effeithiau ar ysgolion y cynigion ôl-16. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod y rhan helaeth o ddisgyblion ôl-16 a all gael eu heffeithio o Goleg Cambria ac y dylid gwahodd cynrychiolydd o’r Coleg hefyd.

 

  • Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at y cyfarfod ar y cyd ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 7 Mehefin a dywedodd y byddai Estyn yn cynnal archwiliad o’r Cyngor ar yr wythnos yn dechrau ar 3 Mehefin. Roedd llawer o waith i Swyddogion cyn yr Archwiliad hwn a gofynnodd i’r Pwyllgor a fyddai modd aildrefnu’r cydbwyllgor yng ngoleuni hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks am gael anfon dymuniadau gorau gan y Pwyllgor at y Cynghorydd Sian Braun gan ei bod wedi torri ei ffibwla a’i chrimog. Gofynnodd hefyd am gael anfon llythyr at Mr David Hytch yn ei longyfarch yn dilyn ei briodas yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)        Cymeradwyo drafft y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y'i diwygiwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwyng cyfarfodydd, yn ol yr angen