Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 09/05/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 5)

5 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried ac fe dynnodd sylw at yr eitemau a oedd ar yr amserlen i’w trafod yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Mehefin.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at yr awgrym i wahodd cynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gymryd rhan mewn gweithdy i Aelodau yn y dyfodol cyn seibiant mis Awst i gysylltu â gwaith y Cyngor ar y gyllideb.  Dywedwyd wrth y Cynghorydd Johnson ein bod yn aros am ymateb gan CLlLC er mwyn cytuno ar ddyddiad addas. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a fyddai modd rhoi ystyriaeth i’r Pwyllgor yn cymryd rhan yng ngwaith y Gweithgor Trawsbleidiol ar Gyllid Llywodraeth Leol. Cytunodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Ian Roberts â’r awgrym a dywedodd bod cyfarfod nesaf y Gweithgor Trawsbleidiol yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf a byddai modd darparu adborth. 

 

Cyfeiriwyd at yr angen i drafod â Chadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar draws y rhanbarth am y ffordd orau i graffu ar Faterion a Gadwyd yn Ôl gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru maes o law. Cynigodd y Prif Weithredwr i fynd ar drywydd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.