Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 14/02/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 88)

88 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried.  Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:

·         Y byddai’r Cynllun Rheoli Asedau diwygiedig yn cael ei ail-amserlennu ar gyfer Chwarter 3.

·         Y byddai’r Dangosfwrdd o Fesurau yn cael eu hystyried ym mis Ebrill (ar ôl y gweithdy ar 27 Mawrth)

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Y byddai’r Flaenraglen Waith, fel y’i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; ac

 

(b)       Y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn yr awdurdod i amrywio’r Flaenraglen Waith rhwng y cyfarfodydd, pe byddai angen.