Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 13/12/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 67)
67 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol:
· Gwybodaeth perfformiad ac eitem eglurhaol ar y cylch cynllunio perfformiad, busnes ac ariannol (yr holwyd amdano yng nghyfarfod mis Medi) i’w ddwyn i gyfarfod mis Ionawr.
· Papur ymgynghori ar ddiwygio Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i’w drefnu ar gyfer mis Ionawr.
· Adroddiad ar ymdrin â chwynion Aelodau i’w ystyried ym mis Chwefror wedi’r gweithdy Aelodau sydd wedi ei drefnu ar gyfer 23 Ionawr.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a
(b) Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.