Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2018/19 (interim)

Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 214)

214 Monitro Cyllideb Refeniw 2018/19 (Dros Dro) pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Darparu manylion am risgiau a materion allweddol hysbys i'r sefyllfa alldro cyllideb refeniw ar gyfer 2018/19 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a'r Cyfrif Refeniw Tai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllided yr adroddiad yngl?n â Monitro Cyllideb Refeniw (Dros Dro) 2018/19, sef yr adroddiad monitro cyntaf yn 2018/19. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaethpwyd wrth gyflawni arbedion effeithlonrwydd yn unol â’r targedau a bennwyd, ac yn nodi’r amrywiannau o bwys a allai effeithio ar y sefyllfa ariannol yn 2018/19.

 

            Fel y nodwyd yn yr adroddiad, rhagamcanwyd mai effaith net gychwynnol y risgiau a’r amrywiannau oedd yn dod i’r amlwg oedd y byddai gwariant £1.619 miliwn yn llai na’r gyllideb.  Roedd y swm yn cynnwys ad-daliad TAW unigol o £1.940 miliwn a thanwariant o £1.400 miliwn yn y flwyddyn ar gyfer Darparu Isafswm Refeniw. Gan ystyried hynny, rhagamcanwyd y byddai’r canlyniad terfynol £1.721 miliwn yn fwy na’r gyllideb. 

 

            Cyflwynid adroddiad ar y pedwerydd mis i’r Cabinet ar 25 Medi 2018, a byddai hwnnw’n cynnwys mwy o fanylion. Roedd yr adroddiad hwn yn amlygu’r risgiau lefel uchel a allai effeithio ar y rhagamcanion ariannol, a byddai'n rhaid monitro’r rhain yn fanwl gydol y flwyddyn.

 

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a nodwyd fel risg ariannol uchel o ran natur anwadal y maes, gan sôn hefyd am y gwaith oedd yn mynd rhagddo yn y rhanbarth i fynd i’r afael â hynny. Soniodd hefyd am lwyddiant lobïo ar y cyd gan lywodraeth leol yngl?n â dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig, oedd wedi arwain at gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru y dosrennid £1.2 miliwn yn genedlaethol er mwyn lliniaru ar golli'r arian yn 2018/19.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad; a

 

 (b)      Chymeradwyo trosglwyddo £0.058 miliwn o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid i wneud iawn am y gostyngiad yn sgil dileu’r Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig.