Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 15/11/2018 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 55)

55 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol i’w hystyried.

 

Ar broses y gyllideb, eglurodd y Prif Weithredwr y posibilrwydd y byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ym mis Ionawr oherwydd  bod Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno ar ôl cyfarfod arferol mis Rhagfyr.

 

Nododd y Cynghorydd Heesom ei bod yn aneglur sut yr oedd cyfrifoldebau portffolio diwygiedig Prif Swyddog yn cysylltu â'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol.   Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd cylch gorchwyl y Pwyllgorau yn cael eu trefnu o amgylch portffolios swyddogion a bod y swyddogion yn adrodd i sawl Pwyllgor fel bo’r angen. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.