Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme (Environment)
Cyfarfod: 09/04/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 61)
61 Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg amgylchedd
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried. Dywedodd y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Mai 2019 ym Mharc Gwepra, Ystafell Yr Ardd, Cei Connah er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:
· diweddariad ar lwybr beiciau’r Wyddgrug i Frychdyn
· adroddiad cynnydd ar derfynau cyflymder y tu allan i ysgolion ac “20 yn ddigon”.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn dilyn cytundeb y Pwyllgor, y byddai cyfarfod o’r Pwyllgor, gan gynnwys taith yn cael ei gynnal yn Nyffryn Maes Glas yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol drafft yn cael ei chymeradwyo;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod cyfarfod o’r Pwyllgor, fyddai’n cynnwys taith, yn cael ei gynnal yn Nyffryn Maes Glas yn ddiweddarach yn y flwyddyn.