Mater - cyfarfodydd
Tourism Promotion and Destination Management
Cyfarfod: 17/07/2018 - Cabinet (eitem 210)
210 Hyrwyddo Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau PDF 104 KB
Pwrpas: I godi ymwybyddiaeth o ddull y Cyngor i dwristiaeth a’r economi ymwelwyr.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad yngl?n â Hybu Twristiaeth a Rheoli Cyrchfannau, a oedd yn ymdrin â’r dulliau a ddefnyddiwyd yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach i hybu’r economi dwristiaeth drwy weithgarwch hyrwyddo, a rheoli a gwella’r profiad a gynigir i ymwelwyr.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am waith y Gwasanaeth Mynediad a’r Amgylchedd Naturiol a’r Gwasanaeth Twristiaeth, a oedd ill dau wedi chwarae rhan arwyddocaol ar y cyd, a byddai cyfleoedd i gydweithio mwy yn y dyfodol yn sgil ailstrwythuro yn ddiweddar.
Er bod yr economi ymwelwyr yn Sir y Fflint yn rhan gymharol fechan o economi Sir y Fflint, roedd yn dal i wneud cyfraniad pwysig. Roedd y sector yn cyflogi oddeutu 3,273 o bobl ac yn creu oddeutu £252 miliwn bob blwyddyn, gyda 3.7 miliwn o bobl yn aros dros nos a 2.7 miliwn yn dod am y dydd.
Croesawodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad, gan sôn am yr holl atyniadau yn Sir y Fflint ac mor bwysig oedd manteisio ar bob cyfle i’w hyrwyddo.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dulliau newydd o hyrwyddo Sir y Fflint i ymwelwyr a rheoli cyrchfannau.